Ail Lyfr y Cronicl 11:22
Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, mawr ei weithredoedd: efe a laddodd ddau o gedyrn Moab; ac efe a ddisgynnodd ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Cronicl 11
Cross References
Joshua 15:21¶ A’r dinasoedd o du eithaf i lwyth meibion Judah, tu a therfyn Edom, ar du y dehau, oeddynt Cabseel, ac Eder, a Jagur,
1 Samuel 17:34A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Bugail oedd dy was di ar ddefaid ei dad; a daeth Hew ac arth, ac a gymerasant oen o’r praidd. º
2 Samuel 8:18Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Peiethiaid; a meibion Dafydd oedd dywysogion.
2 Samuel 23:20A Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, aml ei weithredoedd, efe a laddodd ddau o gedyrn Moab: ac efe a aeth i waered, ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira. º
1 Kings 1:38Felly Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a’r Cerethiaid, a’r Felethiaid, a aethant i waered, ac a wnaethant i Solomon farchogaeth ar fules y brenin Dafydd, ac a aethant ag ef i Gihon.
1 Kings 2:34Felly yr aeth Benaia mab Jehoiada i fyny, ac a ruthrodd arno, ac a’i lladdodd. Ac efe a gladdwyd yn ei dŷ ei hun yn yr anialwch.