Ail Lyfr y Cronicl 15:16
A Dafydd a ddywedodd wrth dywysogion y Lefiaid, ar iddynt osod eu brodyr y cerddorion i leisio ag offer cerdd, nablau, a thelynau, a symbalau, yn lleisio gan ddyrchafu llef mewn gorfoledd. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Cronicl 15
Cross References
1 Chronicles 6:31Y rhai hyn a osododd Dafydd yn gantorion yn nhŷ yr ARGLWYDD, ar ôl gorffwys o’r arch.
1 Chronicles 15:12Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi sydd bennau-cenedl ymhlith y Lefiaid: ymsancteiddiwch chwi a’ch brodyr, fel y dygoch i fyny arch ARGLWYDD DDUW Israel i’r lle a baratoais iddi hi. º
1 Chronicles 16:5Asaff oedd bennaf, ac yn ail iddo ef Sechareia, Jeiel, a Semiramoth, a Jehiel, a Matitheia, ac Eliab, a Benaia, ac Obededom: a Jeiel ag offer nablau, a thelynau; ac Asaff oedd yn lleisio a symbalau. º
1 Chronicles 23:5A phedair mil yn borthorion, a phedair mil yn moliannu yr ARGLWYDD a’r offer a wnaethwn i, ebe Dafydd, i foliannu. º
2 Chronicles 5:13Ac fel yr oedd yr utganwyr a’r cantorion, megis un, i seinio un sain i glodfori ac i foliannu yr ARGLWYDD; ac wrth ddyrchafu sain mewn utgyrn, ac mewn symbolau, ac mewn offer cerdd, ac wrth foliannu yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Canys da yw; ac yn dragywydd y mae ei drugaredd ef: yna y llanwyd y tŷ â chwmwl, sef tŷ yr ARGLWYDD;
2 Chronicles 20:19A’r Lefiaid, o feibion y Cohathiaid, ac o feibion y Corhiaid, a gyfodasant i foliannu ARGLWYDD DDUW Israel â llef uchel ddyrchafedig.