Ail Lyfr y Cronicl 15:25
Felly Dafydd a henuriaid Israel, a thywysogion y miloedd, a aethant i ddwyn i fyny arch cyfamod yr AR¬GLWYDD o dŷ Obededom mewn llawenydd. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Cronicl 15
Cross References
Deuteronomy 1:15Cymmerais gan hynny bennau eich llwythau chwi, sef gwŷr doethion, a rhai hynod, ac a’u gwneuthum hwynt yn bennau arnoch; sef yn gapteniaid ar filoedd, ac yn gapteniaid ar gantoedd, ac yn gapteniaid ar ddegau a deugain, ac yn gapteniaid ar ddegau, ac yn swyddogion yn eich llwythau chwi.
Deuteronomy 12:18Ond o flaen yr Arglwydd dy Dduw y bwyttêi hwynt, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw; ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo yn dy byrth di: llawenycha ger bron yr Arglwydd dy Dduw yn yr hyn oll yr estynech dy law arno.
Deuteronomy 16:15Saith niwrnod y cedwi wyl i’r Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd: canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn dy holl gnwd, ac yn holl waith dy ddwylaw; am hynny bydd dithau lawen.
1 Samuel 10:19A chwi heddiw a wrthodasoch eich Duw, yr hwn sydd yn eich gwared chwi oddi wrth eich holl ddrygfyd, a’ch helbul; ac a ddywedasoch wrtho ef, Nid felly; eithr gosod arnom ni frenin. Am hynny sefwch yr awr hon gerbron yr ARGLWYDD wrth eich llwythau, ac wrth eich miloedd. º
2 Samuel 6:12A mynegwyd i’r brenin Dafydd, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a fendith¬iodd dy Obed-Edom, a’r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Duw. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fyny arch Duw o dŷ Obed-Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd.
1 Chronicles 13:11A bu ddrwg gan Dafydd am i’y ARGLWYDD rwygo rhwygiad yn Ussa; ac efe a alwodd y lle hwnnw Peresussa, hyd y dydd hwn.;. º