1 Corinthians 1:18
Canys yr ymadrodd am y groes, i’r rhai colledig, ynfydrwydd yw; eithr i ni’r rhai cadwedig, nerth Duw ydyw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
19Canys ysgrifenedig yw. Mi a ddifethaf ddoethineb y doethion, a deall y rhai deallus a ddileaf.
Cross References
Acts 2:47Gan foli Duw, a chael ffafr gan yr holl bobl. A’r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig.
Acts 17:18A rhai o’r philosophyddion o’r Epicuriaid, ac o’r Stoiciaid, a ym ddadleuasant âg ef; a rhai a ddywedasant, Beth a fynnai y siaradwr hwn ei ddywedyd? a rhai, Tebyg yw ei fod ef yn mynegi duwiau dieithr: am ei fod yn pregethu yr Iesu, a'r adgyfodiad iddynt.
Romans 1:16Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist: oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a’r sydd yn credu; i’r Iddew yn gyntaf, a hefyd i’r Groegwr.
1 Corinthians 1:23Eithr nyni ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio, i’r Iddewon yn dramgwydd, ac i’r Groegwyr yn ffolineb;
1 Corinthians 2:14Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw: canys ffolineb ydynt ganddo ef; ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt.
1 Corinthians 15:2Trwy yr hon y’ch cedwir hefyd, os ydych yn dal yn eich cof â pha ymadrodd yr efengylais i chwi, oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer.