1 Corinthians 10:1
Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, fod ein tadau oll dan y cwmwl, a’u myned oll trwy y môr;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2A’u bedyddio hwy oll i Moses, yn y cwmwl, ac yn y môr;;
Cross References
Exodus 13:21A’r Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i’w harwain ar y ffordd; a’r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt; fel y gallent fyned ddydd a nos.
Exodus 14:29Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych y’nghanol y môr: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, ar y llaw ddehau, ac ar y llaw aswy.
Numbers 9:15¶ Ac ar y dydd y codwyd y tabernacl, y cwmmwl a gauodd am y tabernacl dros babell y dystiolaeth; a’r hwyr yr ydoedd ar y tabernacl megis gwelediad tân hyd y bore.
Numbers 14:14Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn, (canys clywsant dy fod di, Arglwydd, ym mysg y bobl yma, a’th fod di, Arglwydd, yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmmwl di yn aros arnynt, a’th fod di yn myned o’u blaen hwynt mewn colofn o gwmmwl y dydd, ac mewn colofn dân y nos;)
Deuteronomy 1:33Yr hwn oedd yn myned o’ch blaen chwi ar hyd y ffordd, i chwilio i chwi am le i wersyllu; y nos mewn tân, i ddangos i chwi pa ffordd yr aech, a’r dydd mewn cwmmwl.
Nehemiah 9:11Y môr hefyd a holltaist o’u blaen hwynt, fel y treiddiasant trwy ganol y môr ar hyd sychdir; a’u herlidwyr a fwriaist i’r gwaelod, fel maen i ddyfroedd cryfion: