1 Corinthians 10:7
Ac na fyddwch eilunaddolwyr, megis rhai ohonynt hwy; fel y mae yn ysgrifenedig, Eisteddodd y bobl i fwyta ac i yfed, ac a gyfodasant i chwarae.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
6A’r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwenychem ddrygioni, megis ag y chwenychasant hwy.
8Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai ohonynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain.
Cross References
Exodus 32:6A hwy a godasant yn fore drannoeth ac a offrymmasant boeth-offrymmau, ac a ddygasant aberthau hedd: a’r bobl a eisteddasant i fwytta ac i yfed, ac a godant i fynu i chwarae.
Exodus 32:19¶ A bu, wedi dyfod o hono yn agos i’r gwersyll, iddo weled y llo a’r dawnsiau: ac ennynodd digofaint Moses: ac efe a daflodd y llechau o’i ddwylo ac a’u torrodd hwynt îs law y mynydd.
Deuteronomy 9:16Edrychais hefyd; ac wele, pechasech yn erbyn yr Arglwydd eich Duw: gwnaethech i chwi lo tawdd: ciliasech yn fuan o’r ffordd a orchymynasai yr ARGLWYDD i chwi.
1 Corinthians 5:11Ond yn awr mi a ysgrifennais atoch, na chydymgymysgech, os bydd neb a enwir yn frawd yn odinebwr, neu yn gybydd, neu yn eilunaddolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddw, neu yn gribddeiliwr; gyda’r cyfryw ddyn na chydfwyta chwaith.
1 Corinthians 8:7Ond nid yw’r wybodaeth hon gan bawb: canys rhai, a chanddynt gydwybod o’r eilun hyd y pryd hyn, sydd yn bwyta fel peth a aberthwyd i eilunod; a’u cydwybod hwy, a hi yn wan, a halogir.
1 Corinthians 14:20O frodyr, na fyddwch fechgyn mewn deall; eithr mewn drygioni byddwch blant; ond mewn deall byddwch berffaith.