The Bible Software
1 Corinthians · Beibl (1620)

1 Corinthians 12

1Eithr am ysbrydol ddoniau, frodyr, ni fynnwn i chwi fod heb wybod.

2Chwi a wyddoch mai Cenhedloedd oeddech, yn eich arwain ymaith at yr eilunod mudion, fel y’ch tywysid.

3Am hynny yr wyf yn hysbysu i chwi, nad oes neb yn llefaru trwy Ysbryd Duw, yn galw yr Iesu yn ysgymunbeth: ac ni all neb ddywedyd yr Arglwydd Iesu, eithr trwy’r Ysbryd Glân.

4Ac y mae amryw ddoniau, eithr yr un Ysbryd.

5Ac y mae amryw weinidogaethau, eithr yr un Arglwydd.

6Ac y mae amryw weithrediadau, ond yr un yw Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb:

7Eithr eglurhad yr Ysbryd a roddir i bob un er llesâd.

8Canys i un, trwy’r Ysbryd, y rhoddir ymadrodd doethineb, ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, trwy’r un Ysbryd,

9Ac i arall ffydd, trwy’r un Ysbryd, ac i arall ddawn i iacháu, trwy’r un Ysbryd;

10Ac i arall, wneuthur gwyrthiau; ac i arall, broffwydoliaeth; ac i arall, wahaniaeth ysbrydoedd; ac i arall, amryw dafodau; ac i arall, gyfieithiad tafodau.

11A’r holl bethau hyn y mae’r un a’r unrhyw Ysbryd yn eu gweithredu, gan rannu i bob un o’r neilltu megis y mae yn ewyllysio.

12Canys fel y mae’r corff yn un, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau’r un corff, cyd byddont lawer, ydynt un corff; felly y mae Crist hefyd.

13Oherwydd trwy un Ysbryd y bedyddiwyd ni oll yn un corff, pa un bynnag at Iddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion; ac ni a ddiodwyd oll i un Ysbryd.

14Canys y corff nid yw un aelod eithr llawer.

15Os dywed y troed. Am nad wyf law, nid wyf o’r corff; ai am hyiOtty nid yw efe o’r corff?

16Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o’r corff, ai am hynny nid yw hi o’r corff?

17Pe yr holl gorff fyddai lygad, pa le y byddai’r dywed? pe’r cwbl fyddai glywed, pa le y byddai’r arogliad?

18Eithr yr awr hon Duw a osododd yr aelodau, bob un ohonynt yn y corff, fel yr ewyllysiodd efe.

19Canys pe baent oll un aelod, pa le y byddai’r corff?

20Ond yr awron llawer yw’r aelodau, eithr un corff.

21Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na’r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych.

22Eithr yn hytrach o lawer, yr ael¬odau o’r corff y rhai a dybir eu bod yn wannaf, ydynt angenrheidiol:

23A’r rhai a dybiwn ni eu bod yn amharchedicaf o’r corff, ynghylch y rhai hynny y gosodwn ychwaneg o barch; ac y mae ein haelodau anhardd yn cael ychwaneg o harddwch.

24Oblegid ein haelodau hardd ni nid rhaid iddynt wrtho: eithr Duw a gyd-dymherodd y corff, gan roddi parch ychwaneg i’r hyn oedd ddiffygiol:

25Fel na byddai anghydfod yn y corff; eithr bod i’r aelodau ofalu’r un peth dros ei gilydd.

26A pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod, y mae’r holl aelodau yn cyd-ddioddef; ai anrhydeddu a wneir un aelod, y mae’r holl aelodau yn cydlawenhau.

27Eithr chwychwi ydych gorff Crist, ac aelodau o ran.

28A rhai yn wir a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf apostolion, yn ail proffwydi, yn drydydd athrawon, yna gwyrthiau, wedi hynny doniau i iacháu, cynorthwyau, llywodraethau, rhywogaethau tafodau.

29Ai apostolion pawb? ai proffwydi pawb? ai athrawon pawb? ai gwneuthurwyr gwyrthiau pawb?

30A oes gan bawb ddoniau i iacháu? a yw pawb yn llefaru â thafodau? a yw pawb yn cyfieithu?

31Eithr deisyfwch y doniau gorau: ac eto yr wyf yn dangos i chwi ffordd dra rhagorol.

← 1 Corinthians 11Read In The App, Free →1 Corinthians 13 →

Study 1 Corinthians 12

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Robertson's Word PicturesReina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516