1 Corinthians 13:1
Pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion, ac heb fod gennyf gariad, yr wyf fel efydd yn seinio, neu symbal yn tincian.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Romans 14:15Eithr os o achos bwyd y tristeir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ôl cariad. Na ddistrywia ef â’th fwyd, dros yr hwn y bu Crist farw.
1 Corinthians 12:8Canys i un, trwy’r Ysbryd, y rhoddir ymadrodd doethineb, ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, trwy’r un Ysbryd,
1 Corinthians 12:29Ai apostolion pawb? ai proffwydi pawb? ai athrawon pawb? ai gwneuthurwyr gwyrthiau pawb?
1 Corinthians 13:8Cariad byth ni chwymp ymaith: eithr pa un bynnag ai proffwydoliaethau, hwy a ballant; ai tafodau, hwy a beidiant; ai gwybodaeth, hi a ddiflanna.
2 Corinthians 12:4Ei gipio ef i fyny i baradwys, ac iddo glywed geiriau anhraethadwy, y rhai nid yw gyfreithlon i ddyn eu hadrodd.
Galatians 5:22Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw, cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwyn, dirwest: