1 Corinthians 13:4
Y mae cariad yn hirymaros, yn gymwynasgar; cariad nid yw yn cenfigennu; nid yw cariad yn ymffrostio, nid yw yn ymchwyddo,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 37:11A’i frodyr a genfigennasant wrtho ef; ond ei dad a ddaliodd ar y peth.
1 Samuel 25:33Bendigedig hefyd fo dy gyngor, a bendiegedig fyddych dithau yr hon a’m lluddiaist y dydd hwn rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â’m llaw fy hun. º
Nehemiah 9:17Ac a wrthodasant wrando, ac ni chofiasant dy ryfeddodau, y rhai a wnaethit ti erddynt; caledasant hefyd eu gwarrau, a gosodasant ben arnynt i ddychwelyd i’w caethiwed yn eu cyndynrwydd: eto ti ydwyt DDUW parod i faddau, graslon, a thrugarog, hwyrfrydig i ddicter, ac aml o drugaredd, ac ni wrthodaist hwynt.
Proverbs 10:12Casineb a gyfyd gynhennau: ond cariad a guddia bob camwedd.
Proverbs 17:9Y neb a guddia bechod, sydd yn ceisio cariad: ond y neb a adnewydda fai, sydd yn neilltuo tywysogion.
Proverbs 19:22Deisyfiad dyn yw ei dragaredd ef: a gwell yw y dyn tlawd na’r gŵr celwyddog.