1 Corinthians 13:8
Cariad byth ni chwymp ymaith: eithr pa un bynnag ai proffwydoliaethau, hwy a ballant; ai tafodau, hwy a beidiant; ai gwybodaeth, hi a ddiflanna.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
7Y mae yn dioddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, yn ymaros â phob dim.
9Canys o ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn proffwydo.
Cross References
Jeremiah 49:7Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd am Edom; Onid oes doethineb mwy yn Teman? a fethodd cyngor gan y rhai deallgar? a fethodd eu doethineb hwynt? º
Acts 2:4A hwy oll a lanwyd â’r Ysbryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd.
1 Corinthians 12:10Ac i arall, wneuthur gwyrthiau; ac i arall, broffwydoliaeth; ac i arall, wahaniaeth ysbrydoedd; ac i arall, amryw dafodau; ac i arall, gyfieithiad tafodau.
1 Corinthians 13:1Pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion, ac heb fod gennyf gariad, yr wyf fel efydd yn seinio, neu symbal yn tincian.
1 Corinthians 13:13Yr awr hon y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn; a’r mwyaf o’r rhai hyn yw cariad.
Galatians 5:6Canys yng Nghrist Iesu ni all enwaediad ddim, na dienwaediad; ond ffydd yn gweithio trwy gariad.