1 Corinthians 15:24
Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a’r Tad: wedi iddo ddileu pob pendefigaeth, a phob awdurdod a nerth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
25Canys rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed.
Cross References
Daniel 2:44Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn, y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth, yr hon ni ddistrywir byth: a’r frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill; ond hi a faluria ac a dreulia yr holl freniniaethau hyn, a hi a saif yn dragwydd.
Daniel 7:27At frenhiniaeth a’r llywodraeth, a mawredd y frenhiniaeth dan yr holl nefoedd, a roddir i bobl saint y Goruchaf, yr hwn y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol, a phob llywodraeth a wasanaethant ac a ufuddhant iddo.
Daniel 12:9Ac efe a ddywedodd, Dos, Daniel: canys caewyd a seliwyd y geiriau hyd amser y diwedd.
Matthew 10:22A chas fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i: ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig.
Matthew 13:39A’r gelyn yr hwn a’u heuodd hwynt, yw diafol; a’r cynhaeaf yw diwedd y byd; a’r medelwyr yw’r angylion.
Matthew 28:18A’r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear.