1 Corinthians 2:1
A myfi, pan ddeuthum atoch, frodyr, a ddeuthum nid yn ôl godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi dystiolaeth Duw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio.
Cross References
Exodus 4:10¶ A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, O fy Arglwydd, ni bûm wr ymadroddus, na chyn hyn, nac er pan leferaist wrth dy was; eithr safndrwm a thafotrwm ydwyf.
Jeremiah 1:6Yna y dywedais, O Arglwydd DDUW, wele, ni fedraf ymadrodd; canys bachgen ydwyf fi.
Acts 20:21Gan dystiolaethu i’r Iddewon, ac i’r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tuag at Dduw, a’r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist.
Romans 16:18Canys y rhai sydd gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith, yn twyllo calonnau’r rhai diddrwg.
1 Corinthians 1:17Canys nid anfonodd Crist fi i fedyddio, ond i efengylu; nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wnelid croes Crist yn ofer.
1 Corinthians 2:13Y rhai yr ydym yn eu llefaru hefyd, nid â’r geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol, ond a ddysgir gan yr Ysbryd Glân; gan gydfarnu pethau ysbrydol â phethau ysbrydol.