1 Corinthians 2:14
Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw: canys ffolineb ydynt ganddo ef; ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
15Ond yr hwn sydd ysbrydol, sydd.yn barnu pob peth; eithr efe nis bernir gan neb.
Cross References
Matthew 13:11Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt. Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy.
John 3:3Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw.
John 6:44Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd, ei dynnu ef: a myfi a’i hatgyfodaf ef y dydd diwethaf.
John 8:51Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Os ceidw neb fy ymadrodd i, ni wêl efe farwolaeth yn dragywydd.
John 10:26Ond chwi nid ydych yn credu: canys nid ydych chwi o’m defaid i, fel y dywedais i chwi.
John 14:26Eithr y Diddanyadd, yr Ysbryd Glân, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe a ddysg i chwi’r holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi’r holl bethau a ddywedais i chwi.