1 Corinthians 2:4
A’m hymadrodd a’m pregeth i, ni bu mewn geiriau denu o ddoethineb ddynol, ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
3A mi a fûm yn eich mysg mewn gwendid, ac ofn, a dychryn mawr.
5Fel na byddai eich ffydd mewn doethineb dynion, ond mewn nerth Duw.
Cross References
Judges 16:5Ac argiwyddi’r Philistiaid a aethant i fyny ati hi, ac a ddywedasant wrthi, Huda ef, ac edrych ym mha le y mae ei fawr nerth ef, a pha fodd y gorthrechwn ef, fel y rhwymom ef i’w gystuddio: ac ni a roddwn i ti bob un fil a chant o arian. º
2 Samuel 15:2Ac Absalom a gyfodai yn fore, ac a safai gerllaw ffordd y porth: ac Absalom a alwai ato bob gŵr yr oedd iddo fater i ddyfod at y brenin am farn, ac a ddywedai, O ba ddinas yr ydwyt ti? Yntau a ddywedai, O un o lwythau Israel y mae dy was.
2 Chronicles 18:19A dywedodd yr ARGLWYDD, Pwy a dwylla Ahab brenin Israel, fel yr elo efe i fyny, ac y syrthio yn Ramoth-Gilead? Ac un a lefarodd gan ddywedyd fel hyn, ac arall gan ddywedyd fel hyn.
Proverbs 20:19Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach: am hynny nac ymyrr â’r hwn a wenieithio â’i wefusau.
Ezekiel 13:6Gwagedd a gau ddewiniaeth a welsant, y rhai a ddywedant, Dywedodd yr ARGLWYDD; a'r ARGLWYDD heb eu hanfon hwynt: a pharasant i eraill ddisgwyl am gyflawni y gair.
John 16:8A phan ddêl, efe a argyhoedda’r byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn: