1 Corinthians 2:7
Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch, sef y ddoethineb guddiedig, yr hon a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i’n gogoniant ni:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Isaiah 48:6Ti a glywaist, gwêl hyn oll; ac oni fynegwch chwithau ef? adroddais i ti bethau newyddion o’r pryd hwn, a phethau cuddiedig, y rhai ni wyddit oddi wrthynt. º
Matthew 13:35Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy’r proffwyd, gan ddywedyd, Agoraf fy ngenau mewn damhegion; mynegaf bethau cuddiedig er pan seiliwyd y byd.
Ephesians 1:4Megis yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad:
Colossians 1:26Sef y dirgelwch oedd guddiedig er oesoedd ac er cenedlaethau, ond yr awr hon a eglurwyd i'w saint ef:
1 Peter 1:11Gan chwilio pa bryd, neu pa ryw amser, yr oedd Ysbryd Crist, yr hwn oedd ynddynt, yn ei hysbysu, pan oedd efe yn rhagdystiolaethu dioddefaint Crist, a’r gogoniant ar ôl hynny.
1 Peter 5:10A Duw pob gras, yr hwn a’ch galwodd chwi i’w dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddioddef ychydig, a’ch perffeithio chwi, a’ch cadarnhao, a’ch cryfhao, a’ch sefydlo.