1 Corinthians 2:8
Yr hon nid adnabu neb o dywysogion y byd hwn: oherwydd pes adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Matthew 11:25¶ Yr amser hwnnw yr atebodd yr Iesu, ac y dywedodd, I ti yr ydwyf yn diolch, O Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio’r pethau hyn rhag y doethion a’r rhai deallus, a’u datguddio ohonot i rai bychain:
John 3:19A hon yw’r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg.
John 8:19Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy Dad di? Yr Iesu a atebodd, Nid adwaenoch na myfi, na’m Tad: ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhad i hefyd.
John 12:40Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â’u llygaid, a deall â’u calon, ac ymchwelyd ohonynt, ac i mi en hiacháu hwynt.
John 16:3A’r pethau hyn a wnânt i chwi, oblegid nad adnabuant y Tad, na myfi.
Acts 7:2Yntau a ddywedodd. Ha wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch: Duw y gogoniant a ymddangosodd i’n tad Abraham, pan oedd efe ym Mesopotamia, cyn iddo drigo yn Charran;