1 Corinthians 3:7
Felly nid yw’r hwn sydd yn plannu ddim, na’r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r cynnydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
6Myfi a blennais, Apolos a ddyfrhaodd; ond Duw a roddes y cynnydd.
Cross References
Isaiah 40:17Yr holl genhedloedd ydynt megis diddim ger ei fron ef; yn llai na dim, ac na gwagedd, y cyfrifwyd hwynt ganddo. º
Daniel 4:35A holl drigolion y ddaear a gyfrifir megis yn ddiddim: ac yn ôl ei ewyllys, ei hun y mae yn gwneuthur â llu y nefoedd, ac â thrigolion y ddaear; ac nid oes a atalio el law ef, neu a ddywedo wrtho, Beth yr wyt yn ei wneuthur?
1 Corinthians 13:2A phe byddai gennyf broffwydoliaeth, a gwybod ohonof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth; a phe bai gennyf yr holl ffydd, fel y gallwn symudo mynyddoedd, ac heb gennyf gariad, nid wyf fi ddim.
Galatians 6:3Oblegid os tybia neb ei fod yn rhyw beth, ac yntau heb fod yn ddim, y mae efe yn ei dwyllo ei hun.