1 Corinthians 5:4
Yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, pan ymgynulloch ynghyd, a’m hysbryd innau, gyda gallu ein Harglwydd Iesu Grist,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Matthew 16:19A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, a fydd rhwymedig yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd.
Matthew 18:20Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.
Matthew 28:20Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a’r a orchmynnais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen.
Acts 3:6Yna y dywedodd Pedr, Arian ac aur nid oes gennyf; eithr yr hyn sydd gennyf, hynny yr wyf yn ei roddi i ti: Yn enw Iesu Grist o Nasareth, cyfod a rhodia.
Acts 4:30Trwy estyn ohonot dy law i iacháu, ac fel y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Fab Iesu.
2 Corinthians 2:9Canys er mwyn hyn hefyd yr ysg¬rifennais, fel y gwybyddwn brawf ohonoch, a ydych ufudd ym mhob peth.