1 Corinthians 6:10
Na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Psalms 50:17Canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ôl ef.
Jeremiah 7:11Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ yma, ar yr hwn y gelwir fy enw i, gerbron eich llygaid? wele, minnau a welais hyn, medd yr ARGLWYDD.
Ezekiel 22:27Ei phenaethiaid oedd yn ei chanol fel bleiddiaid yn ysglyfaethu' ysglyfaeth, i dywallt gwaed, i ddifetha eneidiau, er elwa elw.
Matthew 21:19A phan welodd efe ffigysbren ar y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno, ond dail yn unig: ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren.
Matthew 23:33O seirff, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y gellwch ddianc rhag barn uffern?
1 Corinthians 5:11Ond yn awr mi a ysgrifennais atoch, na chydymgymysgech, os bydd neb a enwir yn frawd yn odinebwr, neu yn gybydd, neu yn eilunaddolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddw, neu yn gribddeiliwr; gyda’r cyfryw ddyn na chydfwyta chwaith.