1 Corinthians 6:20
Canys er gwerth y prynwyd chwi: gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corff, ac yn eich ysbryd, y rhai sydd eiddo Duw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Acts 20:28Edrychwch gan hynny arnoch eich hunain, ac ar yr holl braidd, ar yr hwn y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn olygwyr, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe a’i briod waed.
Romans 12:1Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi ohonoch eich cyrff yn aberth byw, sanct¬aidd, cymeradwy gan Dduw; yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi.
1 Corinthians 10:31Pa un bynnag gan hynny ai bwyta ai yfed, ai beth bynnag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw.
Philippians 1:20Yn ôl fy awyddfryd a'm gobaith, na'm gwaradwyddir mewn dim, eithr mewn pob hyder, fel bob amser, felly yr awron hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorff i, pa un bynnag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth.
1 Peter 1:18Gan wybod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, y’ch prynwyd oddi with eich ofer ymarweddiad, yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau,
2 Peter 2:1Eithr bu gau broffwydi hefyd ymhiith y bobl, megis ag y bydd gau athrawon yn eich plith chwithau, y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol, a chan wadu’r Arglwydd yr hwn a’u prynodd hwynt, ydynt yn tynnu arnynt eu hunain ddinistr buan.