1 Corinthians 9:19
Canys er fy mod yn rhydd oddi wrth bawb, mi a’m gwneuthum fy hun yn was i bawb, fel yr enillwn fwy.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Proverbs 11:30Ffrwyth y cyfiawn sydd megis y bywyd: a’r neb a enillo eneidiau, sydd ddoeth.
Matthew 20:26Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog i chwi;
Romans 1:14Dyledwr ydwyf i’r Groegiaid, ac i’r barbariaid hefyd, i’r doethion, ac i’r annoethion hefyd.
Romans 15:2Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth.
1 Corinthians 9:1Onid wyf fi yn apostol? onid wyf fi yn rhydd? oni welais i Iesu Grist ein Harglwydd? onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd?
1 Corinthians 10:33Megis yr ydwyf finnau yn rhyngu bodd i bawb ym mhob peth: heb geisio fy llesâd fy hun, ond llesâd llaweroedd, fel y byddont hwy gadwedig.