1 John 2:19
Oddi wrthym ni yr aethant hwy allan, eithr nid oeddynt ohonom ni:canys pe buasent ohonom ni, hwy a arosasent gyda ni: eithr hyn a fu, fel yr eglurid nad ydynt hwy oll ohonom ni.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
20Eithr y mae gennych chwi eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnnw, a chwi awyddoch bob peth.
Cross References
Job 17:9Y cyfiawn hefyd a ddeil ei ffordd; a’r glân ei ddwylo a chwanega gryfder.
Psalms 41:9Pregethais gyfiawnder yn y gynulleidfa fawr: wele, nid ateliais fy ngwefusau; ti, ARGLWYDD a’i gwyddost.
Jeremiah 32:38A hwy a fyddant yn bobl i mi,.a minnau a fyddaf yn DDUW iddynt hwy-thau.., º
Matthew 24:24Canys cyfyd gau Gristiau, a gau broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion.
Mark 4:16A’r rhai hyn yr un ffunud yw’r rhai a heuir ar y creigle; y rhai, wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen;
Luke 8:13A’r rhai ar y graig, yw’r rhai pan glywant, a dderbyniant y gair yn llawen; a’r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai sydd yn credu dros amser, ac yn amser profedigaeth yn cilio.