1 John 3:9
Pob un a aned o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod, oblegid y mae ei had ef yn aros ynddo ef: ac ni all efe bechu, am ei eni ef o Dduw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 11:37Ac os syrth dim o’u burgyn hwynt ar ddim had hauedig, yr hwn a heuir; glân yw efe.
Matthew 7:18Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da.
John 3:3Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw.
Romans 6:2Na ato Duw. A ninnau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw eto ynddo ef?
Titus 1:2I obaith bywyd tragwyddol, yr hon a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechrau’r byd;
1 John 2:29Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn, chwi a wyddoch fod pob un a’r sydd yn gwneuthur cyfiawnder, wedi ei eni ohono ef.