1 John 5:1
Pob un a’r sydd yn credu mai Iesu yw’r Crist, o Dduw y ganed ef: a phob un a’r sydd yn caru’r hwn a genhedlodd, sydd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd ohono.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn cadw ei orchmynion ef.
Cross References
Matthew 16:16A Simon Pedr a atebodd ac a ddywedodd, Ti yw’r Crist, Mab y Duw byw.
John 1:12Ond cynifer ag a’i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, sef i’r sawl a gredant yn ei enw ef.
John 6:69Ac yr ydym ni yn credu ac yn gwybod mai tydi yw’r’Crist, Mab y Duw byw.
John 15:23Yr hwn sydd yn fy nghasáu i, sydd yn casáu fy Nhad hefyd.
Acts 8:37A Philip a ddywedodd, Os wyt ti yn credu â’th holl galon, fe a ellir. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr wyf yn credu fod Iesu Grist yn Fab Duw.
James 1:18O’i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaenffrwyth o’i greaduriaid ef.