Ail Lyfr y Brenhinoedd 1:13
Dos, a cherdda i mewn at y brenin Dafydd, a dywed wrtho, Oni thyngaist ti, fy arglwydd frenin, wrth dy wasanaethwraig, gan ddywedyd, Solomon dy fab di a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i? paham gan hynny y mae Adoneia yn teyrnasu?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 1
Cross References
Deuteronomy 17:18A phan eisteddo ar deyrn-gadair ei frenhiniaeth, ysgrifened iddo gopi o’r gyfraith hon mewn llyfr, allan o’r hwn sydd ger bron yr offeiriaid y Lefiaid.
1 Kings 1:17Hithau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd, ti a dyngaist i’r ARGLWYDD dy DDUW wrth dy wasanaethyddes, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i:
1 Kings 1:30Yn ddiau megis y tyngais wrthyt ti i ARGLWYDD DDUW Israel, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorsedd¬fainc i yn fy lle i, felly y gwnaf y dydd hwn.
1 Kings 1:48Fel hyn hefyd y dywedodd y brenin: Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a roddodd heddiw un i eistedd ar fy ngorseddfainc, a’m llygaid innau yn gweled hynny.
1 Chronicles 22:6Ac efe a alwodd ar Solomon ei fab, ac a orchmynnodd iddo adeiladu tŷ i ARGLWYDD DDUW Israel. º
1 Chronicles 29:23Felly yr eisteddodd Solomon ar orseddfa yr ARGLWYDD yn frenin, yn lle Dafydd ei dad, ac a lwyddodd; a holl Israel a wrandawsant arno. º