Ail Lyfr y Brenhinoedd 1:39
A Sadoc yr offeiriad a gymerodd gorn o olew allan o’r babell, ac a eneiniodd Solomon. A hwy a utganasant mewn utgorn: a’r holl bobl a ddywedasant, Bydded fyw y brenin Solomon.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 1
Cross References
Exodus 30:23Cymmer i ti ddewis lysiau, o’r myrr pur, bwys pùm càn sicl, a hanner hynny o’r sinamon peraidd, sef pwys deucant a deg a deugain o siclau, ac o’r calamus peraidd pwys deucant a deg a deugain o siclau;
Exodus 30:35A gwna ef yn arogl-darth arogl-bêr o waith yr apothecari, wedi ei gyd-dymheru, yn bur ac yn sanctaidd.
1 Samuel 16:13Yea y cymerth Samuel gorn yr olew, ac a’i heneiniodd ef yng nghanol ei frodyr. A daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Dafydd, o’r dydd hwnnw allan. Yna Samuel a gyfododd, ac a aeth i Rama. º
1 Kings 1:34Ac eneinied Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ef yno yn frenin ar Israel: ac utgenwch mewn utgorn, dywedwch, Bydded fyw y brenin Solo¬mon.
2 Kings 9:13A hwy a frysiasant, ac a gymerasant bob un ei wisg, ac a’i gosodasant dano ef ar ben uchaf y grisiau, ac a ganasant mewn utgom, ac a ddywedasant, Jehu sydd frenin. º
1 Chronicles 29:22Ac a fwytasant ac a yfasant gerbron yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw mewn llawenydd mawr. A gosodasant Solomon mab Dafydd yn frenin yr ail waith; ac eneiniasant ef i’r ARGLWYDD yn flaenor, a Sadoc yn offeiriad. º