Ail Lyfr y Brenhinoedd 10
1Aphan glybu brenhines Seba glod Solomon am enw yr ARGLWYDD, hi- — oolomon am enw yr -—., w, m a ddaeth i’w brofi ef a chwestiynau caled. º
2A hi a ddaeth i Jerwsalem a llu mawr iawn, a chamelod yn dwyn aroglau, ac aur lawer iawn, a meini gwerthfawr. A hi a ddaeth at Solomon, ac a lefarodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon. º
3A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion: nid oedd dim yn guddiedig rhag y brenin, a’r na fynegodd efe iddi hi. º
4A phan welodd brenhines Seba holl ddoethineb Solomon, a’r tŷ a adeiladasai efe, º
5A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei Tyeision, a threfn ei weinidogion, a’u dillad hwynt, a’i drulliadau ef, a’i esgynfa ar hyd yr hon yr ai efe i fyny i dŷ yr AR¬GLWYDD; nid oedd mwyach ysbryd ynddi. º
6A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad am dy ymadroddion di, ac am dy ddoethineb. º
7Eto ni chredais y geiriau, nes i mi ddyfod, ac i’m llygaid weled: ac wele, ni fynegasid i mi yr hanner: mwy yw dy ddoethineb a’th ddaioni na’r clod a glyw¬ais i. º
8Gwyn fyd dy wŷr di, gwyn fyd dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron di, yn clywed dy ddoethineb. º
9Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a’th hoffodd di, i’th roddi ar deyrngadair Israel: oherwydd cariad yr ARGLWYDD tuag at Israel yn dragywydd, y gosododd efe di yn frenin, i wneuthur barn a chyfiawnder. º
10A hi a roddes i’r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr. Ni ddaeth y fath beraroglau mwyach, cyn amied a’r rhai a roddodd brenhines Seba i’r brenin Solomon. º
11A llongau Hiram hefyd, y rhai a gludent aur o Offir, a ddygasant o Offir lawer iawn o goed almugim, ac o feini gwerthfawr. º
12A’r brenin a wnaeth o’r coed almug¬im anelau i dŷ yr ARGLWYDD, ac i dŷ y brenin, a thelynau a saltringau i gant-orion. Ni ddaeth y fath goed almugim, ac ni welwyd hyd y dydd hwn. º
13A’r brenin Solomon a roddes i frenhines Seba ei holl ddymuniad, yr hyn a ofynnodd hi, heblaw yr hyn a roddodd Solomon iddi hi o’i frenhinol haelioni. Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i’w gwlad, hi a’i gweision. º
14A phwys yr aur a ddeuai i Solo¬mon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur; º
15Heblaw yr hyn a gai efe gan y march-nadwyr, ac o farsiandiaeth y llysieuwyr, a chan holl frenhinoedd Arabia, a thywys¬ogion y wlad. º
16A’r brenin Solomon a wnaeth ddau gant o darianau aur dilin; cnwe chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob tarian: º
17A thri chant o fwcledi o aur dilin; tair punt o aur a roddes efe ym mhob bwcled. A’r brenin a’u rhoddes hwynt yn nhŷ coedwig Libanus. º
18A’r brenin a wnaeth orseddfainc fawr o ifori, ac a’i gwisgodd hi ag aur o’r gorau. ‘ º
19Chwech o risiau oedd i’r orsedd¬fainc; a phen crwn oedd i’r orseddfainc o’r tu ôl iddi, a chanllawiau o bob tu i’r eisteddle, a dau lew yn sefyll yn ymyl y canllawiau. º
20A deuddeg o lewod oedd yn sefyll yno ar y chwe gris o’r ddeutu. Ni wnaethpwyd y fath yn un deyrnas. º
21A holl lestri yfed y brenin Solo¬mon oedd o aur; a holl lestri tŷ coedwig Libanus oedd aur pur: nid oedd arian ynddynt. Ni roddid dim bri arno yn nyddiau Solomon. º
22Oherwydd llongau Tarsis oedd gan y brenin ar y môr, gyda llongau Hiram. Unwaith yn y tair blynedd y deuai llong¬au Tarsis, yn dwyn aur, ac arian, ac ifori, ac epaod, a pheunod. º
23A’r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear, mewn cyfoeth a doethineb. º
24I A’r holl fyd oedd yn ceisio gweled wyneb Solomon, i glywed ei ddoethineb ef, a roddasai Duw yn ei galon ef. º
25A hwy a ddygasant bob un ei anrheg, llestri arian, a llestri aur, a gwisgoedd, ac arfau, a phêr-aroglau, meirch, a mulod, dogn bob blwyddyn. º
26A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion: ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau, a deuddeng mil o farchogion; y rhai a osododd efe yn ninasoedd y cerbydau, a chyda’r brenin yn Jerwsalem. º
27A’r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig, a’r cedrwydd a wnaeth efe fel sycamorwydd yn y doldir, o amldra. º
28A meirch a ddygid i Solomon o’r Aifft, ac edafedd llin: marchnadyddion y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris. º
29A cherbyd a ddeuai i fyny ac a ai allan o’r Aifft am chwe chan sicl o arian, a march am gant a deg a deugain: ac fel hyn i holl frenhinoedd yr Hethiaid, ac i frenhinoedd Syria, y dygent hwy feirch trwy eu llaw hwynt.