The Bible Software
Ail Lyfr y Brenhinoedd · Beibl (1620)

Ail Lyfr y Brenhinoedd 11

1OND y brenin Solomon a garodd lawer o wragedd dieithr, heblaw merch Pharo, Moabesau, Ammonesau, Edomesau, Sidonesau, a Hethesau; º

2O’r cenhedloedd am y rhai y dyweA". asai yr ARGLWYDB wrth feibion Israel, Nac ewch i mewn atynt hwy, ac na ddeuant hwythau i mewn atoch chwi: diau y troant eich calonnau chwi ar ôl eu duw-iau hwynt. Wrthynt hwy y glynodd Solomon mewn cariad. º

3Ac yr oedd ganddo ef saith gant o wragedd, yn freninesau; a thri chant o ordderchwragedd: a’i wragedd a droesant ei galon ef. º

4A phan heneiddiodd Solomon, ei wragedd a droesant ei galon ef ar ôl duw-iau dieithr: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r ARGLWYDD ei DDUW, fel y buasai calon Dafydd ei dad ef. º

5Canys Solomon a aeth ar ôl Astoreth duwies y Sidoniaid, ac ar ôl Milcom (Beidd-dra yr Ammoniaid. º

6A Solomon a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; ac ni chyflawnodd fyned ar ôl yr ARGLWYDD, fel Dafydd ei dad. º

7Yna Solomon a adeiladodd uchelfa i Cemos, ffieidd-dra Moab, yn y bryn sydd ar gyfer Jerwsalem; ac i Moloch, ffieiddira meibion Ammon. º

8Ac felly y gwnaeth efe i’w holl wragedd dieithr, y rhai a arogl-darthasant ac a aberthasant i’w duwiau. º

9A’r ARGLWYDD a ddigiodd wrth Solomon, oherwydd troi ei galon ef oddi wrth ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a ymddangosasai iddo ef ddwy waith, º

10Ac a orchmynasai iddo am y peth hyn, nad elai efe ar ôl duwiau dieithr: ond ni chadwodd efe yr hyn a orchmyn¬asai yr ARGLWYDD. º

11Am hynny y dywedodd yr AR¬GLWYDD wrth Solomon, Oherwydd bod hyn ynot ti, ac na chedwaist fy nghyf-amod â’m deddfau a orchmynnais i ti, gan rwygo y rhwygaf y frenhiniaeth oddi wrthyt ti, ac a’i rhoddaf hi i’th was di. º

12Eto yn dy ddyddiau di ni wnaf hyn, er mwyn Dafydd dy dad: o law dy fab di y rhwygaf hi. º

13Ond ni rwygaf yr holl frenhiniaeth; un llwyth a roddaf i’th fab di, er mwyn Dafydd fy ngwas, ac er mwyn Jerwsalera yr hon a etholais. º

14A’r ARGLWYDD a gyfododd wrthwynebwr i Solomon, Hadad yr Edomiad: o had y brenin yn Edom yr oedd efe. º

15Canys pan oedd Dafydd yn Edom, a Joab tywysog y filwriaeth yn myned i fyny i gladdu’r lladdedigion, wedi iddo daro pob gwryw yn Edom; º

16(Canys chwe mis yr arhosodd Joab yno a holl Israel, nes difetha pob gwryw yn Edom:).tf Yr Hadad hwnnw a ffodd, a gwŷr Edom o weision ei dad gydag ef, i fyned i’r Aifft; a Hadad yn fachgen bychan eto. º

17

18A hwy a gyfodasant o Midian, ac a ddaethant i Paran: ac a gymerasant wŷr gyda hwynt o Paran, ac a ddaethant i’r Aifft, at Pharo brenin yr Aifft; ac efe a r&ddes iddo ef dŷ, ac a ddywedodd am roddi bwyd iddo, ac a roddodd dir iddo. º

19A Hadad a gafodd ffafr fawr yng ngolwg Pharo, ac efe a roddes iddo ef yn raig chwaer ei wraig ei hun, chwaer Tahpenes y frenhines. º

20A chwaer Tahpenes a ymddug iddo ef Genubath ei fab; a Thahpenes a’i diddyfhodd ef yn nhŷ Pharo: a Genubath fu yn nhŷ Pharo ymysg meibion Pharo. º

21A phan glybu Hadad yn yr Aifft, huno o Dafydd gyda’i dadau, a marw o Joab tywysog y filwriaeth, Hadad a ddy¬wedodd wrth Pharo, Gollwng fi, fel yr elwyf i’m gwlad fy hun. º

22A dywedodd Pharo wrtho ef, Ond pa beth sydd arnat ei eisiau gyda mi, pan wyt, wele, yn ceisio myned i’th wlad dy hun? Ac efe a ddywedodd. Dim, eithr gan ollwng gollwng fi. º

23A Duw a gyfododd wrthwynebwr arall yn ei erbyn ef, Reson mab Eliada, yr hwn a ffoesai oddi wrth Hadadeser brenin Soba ei arglwydd: º

24Ac efe a gynullodd wŷr ato, ac a aeth yn dywysog ar fyddin, pan laddodd Dafydd hwynt o Soba; a hwy a aethant i Damascus, ac a drigasant ynddi, ac a deyrnasasant yn Damascus. º

25Ac yr oedd efe yn wrthwynebwr i Israel holl ddyddiau Solomon, heblaw y drwg a wnaeth Hadad: ac efe a ffieidd" iodd Israel, ac a deyrnasodd ar Syria. º

26A Jeroboam mab Nebat, Effratead o Sereda, (ac enw ei fam ef oedd Serfa, yr hon oedd wraig weddw.) gwas i Solomon, a ddyrchafodd hefyd ei law yn erbyn y brenin. º

27Ac o achos hyn y dyrchafodd efe a law yn erbyn y brenin: Solomon.’a adeiladodd Milo, ac a gaeodd adwyaa dinas Dafydd ei dad.:. º

28A’r gŵr Jeroboam oedd rymus. o nerth: a Solomon a ganfu y llanc hwniiw yn medru gwneuthur gwaith, ac a’i gwnaeth ef yn oruchwyliwr ar holl faich tŷ Joseff. º

29A’r pryd hwnnw, a Jeroboam yn myned allan o Jerwsalem, y proffwyd Ahia y Siloniad a’i cafodd ef ar y ffordd, ac efe oedd wedi ei wisgo mewn gwisg newydd, a hwynt ill dau oeddynt yn unig yn y maes. º

30Ac Ahia a ymaflodd yn y wisg newydd oedd amdano ef, ac a’i rhwygodd yn ddeuddeg o ddarnau, º

31Ac efe a ddywedodd wrth Jero¬boam, Cymer i ti ddeg darn: canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, Wele fi yn rhwygo’r frenhiniaeth o law Solomon, a rhoddaf ddeg llwyth i ti: º

32(Ond un llwyth fydd iddo ef, er mwyn fy ngwas Dafydd, ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas a etholais i o holl lwythau Israel:) º

33Oblegid iddynt fy ngwrthod i, ac ymgrymu i Astoreth duwies y Sidoniaid, ac i Cemos duw y Moabiaid, ac i Milcom duw meibion Ammon, ac na rodiasant yn fy ffyrdd i, i wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, ac i wneuthur fy neddfau a’m barnedigaethau, fel Dafydd ei dad. º

34Ond ni chymeraf yr holl frenhiniaeth o’i law ef: eithr gwnaf ef yn dywysog holl ddyddiau ei einioes, er mwyn Dafydd fy ngwas, yr hwn a ddewisais i, yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion a’m deddf¬au i; º

35Eithr cymeraf yr holl frenhiniaeth o law ei fab ef, a rhoddaf ohoni i ti ddeg llwyth., i º

36Ac i’w fab ef y rhoddaf un llwyth, xxx fel y byddo goleuni i’m gwas Dafydd yn wastadol ger fy mron yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais i mi i osod fy enw yno. º

37A thi a gymeraf fi, fel y teyrnasech yn ôl yr hyn oll a ddymuno dy galon i a thi a fyddi frenin ar Israel. º

38Ac os gwrandewi di ar yr hyn oll a orchmynnwyf i ti, a rhodio yn fy ffyrdd i, a gwneuthur yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg i, i gadw fy neddfau a’m gorchmynion, fel y gwnaeth Dafydd fy ngwas; yna mi a fyddaf gyda thi, ac a adeiladaf i ti dy sicr, fel yr adeiledais i Dafydd, a mi a roddaf Israel i ti. º

39A mi a gystuddiaf had Dafydd oblegid hyn; eto nid yn dragywydd. º

40Am hynny Solomon a geisiodd ladd Jeroboam. A Jeroboam a gyfododd, ac a ffodd i’r Aifft, at Sisac brenin yr Aifft; ac efe a fu yn yr Aifft hyd farwolaeth Solomon. º

41A’r rhan arall o weithredoedd Solomon, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i ddoethineb ef, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr gweithredoedd Solomon? º

42A’r dyddiau y teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem, ar holl Israel, oedd ddeu-gain mlynedd. º

43A Solomon a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd ei dad; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

← Ail Lyfr y Brenhinoedd 10Read In The App, Free →Ail Lyfr y Brenhinoedd 12 →

Study Ail Lyfr y Brenhinoedd 11

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122