Ail Lyfr y Brenhinoedd 11:9
A’r ARGLWYDD a ddigiodd wrth Solomon, oherwydd troi ei galon ef oddi wrth ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a ymddangosasai iddo ef ddwy waith, º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 11
Cross References
Exodus 4:14Ac ennynodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i’th gyfarfod; a phan y’th welo, efe a lawenycha yn ei galon.
Deuteronomy 3:26Ond yr Arglwydd a ddigiasai wrthyf o’ch plegid chwi, ac ni wrandawodd arnaf: ond dywedyd a wnaeth yr Arglwydd wrthyf, Digon yw hynny i ti, na chwanega lefaru wrthyf mwy am y peth hyn.
Deuteronomy 9:8Yn Horeb hefyd y digiasoch yr Arglwydd; a digiodd yr Arglwydd wrthych, i’ch difetha.
1 Samuel 15:11Edifar yw gennyf osod Saul yn frenin: canys efe a ddychwelodd oddi ar fy ôl i, ac ni chyfiawnodd fy ngeiriau. A bu ddrwg gan Samuel; ac efe a lefodd ar yr ARGLWYDD ar hyd y nos. º
2 Samuel 11:27A phan aeth y galar heibio, Dafydd a anfonodd, ac a’i cyrchodd hi i’w dŷ, i fod iddo yn wraig; a hi a ymddug iddo fab. A drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD oedd y peth a wnaethai Dafydd.
1 Kings 9:2Yr ARGLWYDD a ymddangosodd i Solomon yr ail waith, fel yr yinddangosasai iddo yn Gibeon. º