Ail Lyfr y Brenhinoedd 12
1YNA Rehoboam a aeth i Sichem: canys i Sichem y daethai holl Israel i’w urddo ef yn frenin. º
2A phan glybu Jeroboam mab Nebat, ac efe eto yn yr Aifft, (canys efe a ffoesai o ŵydd Solomon y brenin, a Jeroboam a arosasai yn yr Aifft;) º
3Hwy a anfonasant, ac a alwasant arno ef. A Jeroboam a holl gynulleidfa Israel a ddaethant, ac a ymddiddanasant a Rehoboam, gan ddywedyd, º
4Dy dad di a wnaeth ein hiau ni yn drom: ac yn awr ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad, ac o’i iau drom ef a roddodd efe arnom ni, ac ni a’th wasanaethwn di. º
5Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch eto dridiau; yna dychwelwch ataf fi. A’r bobl a aethant ymaith. º
6A’r brenin Rehoboam a ymgyng-horodd a’r henuriaid a fuasai yn sefyll gerbron Solomon ei dad ef, tra yr ydoedd efe yn fyw, ac a ddywedodd. Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb i’r bobl hyn? º
7A hwy a lefarasant wrtho ef, gan ddywedyd, Os byddi di heddiw was i’r bobl hyn, a’u gwasanaethu hwynt, a’u hateb hwynt, a llefaru wrthynt eiriau teg; yna y byddant weision i ti byth. º
8Ond efe a wrthododd gyngor yr hen¬uriaid, yr hwn a gyngorasent iddo ef, ac efe a ymgynghorodd a’r gwŷr ieuainc a gynyddasai gydag ef, a’r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef: º
9Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr atebom y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyf, gan ddywedyd, Ysgafnha yr iau a roddodd dy dad arnom ni? º
10A’r gwŷr ieuainc, y rhai a gynyddasent gydag ef, a lefarasant wrtho, gan ddywedyd. Fel hyn y dywedi di wrth y bobl yma, y rhai a lefarasant wrthyt, gan ddywedyd, Dy dad di a drymhaodd ein hiau ni, ond ysgafnha di hi arnom ni; fel hyn y lleferi di wrthynt; Fy mys bach fydd breisgach na llwynau fy nhad. º
11Ac yn awr fy nhad a’ch llwythodd a iau drom, a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a’ch cosbodd chwi a ffrewyllau, a mi a’ch cosbaf chwi ag ysgorpionau. º
12A daeth Jeroboam a’r holl bobl at Rehoboam y trydydd dydd, fel y llef- arasai y brenin, gan ddywedyd, Dy-’chwelwch ataf fi y trydydd dydd. º
13A’r brenin a atebodd y bobl yn arw, ac a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo; º
14Ac a lefarodd wrthynt hwy yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc, gan ddywedyd, Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom, a minnau a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a’ch ceryddodd chwi A ffrewyllau, "a minnau a’ch ceryddaf chwi ag ysgorp¬ionau. º
15Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl. Oherwydd yr achos oedd oddi wrth yr ARGLWYDD, fel y cwblheid ei air ef, yr hwn a lefarasai yr ARGLWYDD trwy law Ahia y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat. º
16A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, dos i’th bebyll; edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly Israel a aethant i’w pebyll. º
17Ond meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda, Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy. º
18A’r brenin Rehoboam a anfonodd Adoram, yr hwn oedd ar y dreth; a holl Israel a’i llabyddiasant ef a meini, fel y bu efe farw. Am hynny y brenin Reho¬boam a brysurodd i fyned i’w gerbyd, i ffoi i Jerwsalem. º
19Felly Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn. º
20A phan glybu holl Israel ddychwelyd o Jeroboam, hwy a anfonasant ac a’i galwasant efat y gynulleidfa, ac a’i gosodasant ef yn frenin ar holl Israel: nid oedd yn myned ar ôl tŷ Dafydd, ond llwyth Jwda yn unig. º
21A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem, efe a gasglodd holl dŷ Jwda, a llwyth Benjamin, cant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd yn erbyn tŷ Israel, i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam mab Solomon. º
22Ond gair Duw a ddaeth at Semaia gŵr Duw, gan ddywedyd, º
23Adrodd wrth Rehoboam mab Sol¬omon brenin Jwda, ac wrth holl dŷ Jwda a Benjamin, a gweddill y bobl, gan ddywedyd, º
24Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr meibion Israel; dych¬welwch bob un i’w dŷ ei hun: canys trwof fi y mae y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar air yr ARGLWYDD, ac a ddychwelasant i fyned ymaith, yn ôl gair yr AR¬GLWYDD. º
25Yna Jeroboam a adeiladodd Sichem ym mynydd Effraim, ac a drigodd ynddi hi; ac a aeth oddi yno, ac adeilad¬odd Penuel. º
26A Jeroboam a feddyliodd yn ei galon, Yn awr y dychwel y frenhiniaeth at dŷ Dafydd. º
27Os a y bobl hyn i fyny i wneuthur aberthau yn nhŷ yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, yna y try calon y bobl hyn at eu harglwydd Rehoboam brenin Jwda, a hwy a’m lladdant i, ac a ddychwelant at Rehoboam brenin Jwda. º
28Yna y brenin a ymgynghorodd, ac a «| wnaeth ddau lo aur, ac a ddywedodd I’ wrthynt hwy, Gormod yw i chwi fyned i fyny i Jerwsalem: wele dy dduwiau di, O Israel, y rhai a’th ddug di i fyny o wlad yr Aifft. º
29Ac efe a osododd un yn Bethel, ac a osododd y llall yn Dan. º
30A’r peth hyn a aeth yn bechod: cfclegid y bobl a aethant gerbron y naill hyd Dan. _ º
31Ac efe a wnaeth dy uchelfeydd, ac a wnaeth offeiriaid o’r rhai gwaelaf o’r bobl, y rhai nid oedd o feibion Lefi. º
32A Jeroboam a wnaeth uchel wyl yn yr wythfed mis, ar y pymthegfed dydd o’r mis, fel yr uchel wyl oedd yn Jwda; ac efe a offrymodd ar yr allor. Felly y gwnaeth efe yn Bethel, gan aberthu i’r lloi a wnaethai efe: ac efe a osododd yn Bethel offeiriaid yr uchelfaoedd a wnaeth¬ai efe. º
33Ac efe a offrymodd ar yr allor a wnaethai efe yn Bethel, y pymthegfed dydd o’r wythfed mis, sef yn y mis a ddychmygasai efe yn ei galon ei hun; ac efe a wnaeth uchel wyl i feibion Israel: ac efe a aeth i fyny at yr allor i arogl-darthu.