Ail Lyfr y Brenhinoedd 13:33
Wedi y peth hyn ni ddychwelodd Jeroboam o’i ffordd ddrygionus; ond efe a wnaeth drachefn o wehilion y bobl offeiriaid i’r uchelfeydd: y neb a fynnai, efe a’i cysegrai ef, ac efe a gai fod yn offeiriad i’r uchelfeydd. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 13
Cross References
Exodus 28:41A gwisg hwynt am Aaron dy frawd, a’i feibion gyd âg ef: ac enneinia hwynt, cyssegra hwynt hefyd, a sancteiddia hwynt, i offeiriadu i mi.
Numbers 3:10Ac urdda di Aaron a’i feibion i gadw eu hoffeiriadaeth: a’r dïeithrddyn a ddelo yn agos, a roddir i farw.
Numbers 17:12A meibion Israel a lefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Wele ni yn trengi; darfu am danom, darfu am danom ni oll.
1 Kings 12:31Ac efe a wnaeth dy uchelfeydd, ac a wnaeth offeiriaid o’r rhai gwaelaf o’r bobl, y rhai nid oedd o feibion Lefi. º
2 Chronicles 13:9Oni yrasoch ymaith offeiriaid yr AR¬GLWYDD, meibion Aaron, a’r Lefiaid? ac oni wnaethoch i chwi offeiriaid fel pobl y gwledydd eraill? pwy bynnag sydd yn dyfod i’w gysegru â bustach ieuanc ac â saith o hyrddod, hwnnw sydd yn offeiriad i’r rhai nid ydynt dduwiau.
2 Chronicles 28:22A’r amser yr oedd yn gyfyng arno, efe a chwanegodd droseddu yn erbyn yr ARGLWYDD: hwn yw y brenin Ahas.