Ail Lyfr y Brenhinoedd 13:4
A phan glybu y brenin air gŵr Duw, yr hwn a lefodd efe yn erbyn yr allor yn Bethel, yna Jeroboam a estynnodd ei law oddi wrth yr allor, gan ddywedyd, Deliwch ef. A diffrwythodd ei law ef, yr hon a estynasai efe yn ei erbyn ef, fel na allai efe ei thynnu hi ato. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 13
Cross References
Genesis 19:11Tarawsant hefyd y dynion oedd wrth ddrws y tŷ â dallineb, o fychan i fawr, fel y blinasant yn ceisio y drws.
1 Kings 22:27A dywed.xxx Fel hyn y dywed y brenin;; Rhowch hwn yn y carchardy, a bwydwch ef a bara cystudd ac a dwfr blinder, nes v mi ddyfod mewn heddwch. º
2 Chronicles 16:10Yna y digiodd Asa wrth y gweledydd, ac a’i rhoddodd ef mewn carchardy; canys yr oedd efe yn ddicllon wrtho am y peth hyn. Ac Asa a orthrymodd rai o’r bobl y pryd hwnnw.
2 Chronicles 25:15Am hynny y llidiodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Amaseia; ac efe a anfonodd broffwyd ato ef, yr hwn a ddy¬wedodd wrtho ef, Paham y ceisiaist ti dduwiau y bobl, y rhai nid achubasant eu pobl eu hun o’th law di?
Jeremiah 20:2Yna Pasur a drawodd Jeremeia y proffwyd, ac a’i rhoddodd ef yn y carchar ‘oedd yn y porth uchaf i Benjamin, yr hwn oedd wrth dŷ yr ARGLWYDD. º
Jeremiah 26:20Ac yr oedd hefyd ŵr yn proffwydo yn enw yr ARGLWYDD, Ureia mab Semaia, o Ciriath-jearim, yr hwn a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon, ac yn erbyn y wlad hon, yn ôl holl eiriau Jeremeia. º