Ail Lyfr y Brenhinoedd 13:6
A’r brenin a atebodd ac a ddywedodd wrth ŵr Duw, Gweddïa, atolwg, ger¬bron yr ARGLWYDD dy DDUW, ac ymbil drosof fi, fel yr adferer fy llaw i mi. A gŵr Duw a weddïodd gerbron yr AR¬GLWYDD; a llaw y brenin a adferwyd iddo ef, ac a fu fel cynt. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 13
Cross References
Exodus 8:8¶ Yna Pharaoh a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Gweddïwch ar yr Arglwydd, ar iddo dynnu’r llyffaint ymaith oddi wrthyf fi, ac oddi wrth fy mhobl; a mi a ollyngaf ymaith y bobl, fel yr aberthont i’r Arglwydd.
Exodus 8:28A dywedodd Pharaoh, Mi a’ch gollyngaf chwi, fel yr aberthoch i’r Arglwydd eich Duw yn yr anialwch; ond nac ewch ym mhell: gweddïwch trosof fi.
Exodus 10:17Ac yn awr maddeu, attolwg, fy mhechod y waith hon yn unig, a gweddïwch ar yr Arglwydd eich Duw, ar iddo dynnu oddi wrthyf y farwolaeth hon yn unig.
Numbers 12:13A Moses a waeddodd ar yr Ar glwydd, gan ddywedyd, O Dduw, attolwg, meddyginiaetha hi yr awr hon.
1 Samuel 12:19A’r holl bobl a ddywedasant wrth Samuel, Gweddïa dros dy weision ar yr ARGLWYDD dy DDUW, fel na byddom feirw; canys chwanegasom d drygioni ar ein holl bechodau, wrth gcisio i ni frenin. º
Jeremiah 37:3A’r brenin Sedeceia a anfonodd Jehucal mab Selemeia, a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, at Jeremeia y proff¬wyd, gan ddywedyd, Gweddïa, atolwg, drosom ni ar yr ARGLWYDD ein Duw. º