Ail Lyfr y Brenhinoedd 13:8
A gŵr Duw a ddywedodd wrth y brenin, Pe rhoddit i mi hanner dy dŷ, ni ddeuwn i gyda thi; ac ni fwytawn fara, ac nid yfwn ddwfr, yn y fan hon: º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 13
Cross References
Exodus 5:3A dywedasant hwythau, Duw yr Hebreaid a gyfarfu â ni: gâd i ni fyned, attolwg, daith tridiau yn yr anialwch, ac aberthu i’r Arglwydd ein Duw; rhag iddo ein rhuthro â haint, neu â chleddyf.
Exodus 7:2Ti a leferi yr hyn oll a orchymynwyf i ti; ac Aaron dy frawd a lefara wrth Pharaoh, ar iddo ollwng meibion Israel ymaith o’i wlad.
Numbers 22:18A Balaam a attebodd ac a ddywedodd wrth weision Balac, Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn fyned dros air yr Arglwydd fy Nuw, i wneuthur na bychan na mawr.
1 Kings 13:16Yntau a ddywedodd, Ni allaf ddy¬chwelyd gyda thi, na dyfod gyda thi; ac ni fwytaf fara, ac nid yfaf ddwfr gyda da yn y fan hon. º
2 Kings 5:26Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid aeth fy nghalon gyda thi, pan drodd y gŵr oddi ar ei gerbyd i’th gyfarfod di? a ydoedd hi amser i gymryd arian, ac i gymryd gwisgoedd, ac olewyddlannau, a gwinllannau, a defaid, a gwartheg, a gweision, a morynion?
Mark 6:11A pha rai bynnag ni’ch derbyniant, ac ni’ch gwrandawant, pan eloch oddi yno, ysgydwch y llwch a fyddo dan eich traed, yn dystiolaeth iddynt. Yn wir meddaf i chwi, Y bydd esmwythach i Sodom a Gomorra yn nydd y farn, nag i’r ddinas honno.