Ail Lyfr y Brenhinoedd 15
1A yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Jeroboam mab Nebat, yr aeth Abeiam yn frenin ar Jwda. º
2Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom. º
3Ac efe a rodiodd yn holl bechodau ei dad, y rhai a wnaethai efe o’i flaen dF: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r ARGLWYDD ei DDUW, fel calon Dafydd ei dad. º
4Ond er mwyn Dafydd y rhoddodd yr ARGLWYDD ei DDUW iddo ef oleuni yn Jerwsalem; i gyfodi ei fab ef ar ei ôl ef, ac i sicrhau Jerwsalem: º
5Oherwydd gwneuthur o Dafydd yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac na chiliodd oddi wrth yr hyn oll a orchmynnodd efe iddo holl ddydd¬iau ei einioes, ond yn achos Ureia yr Hethiad. º
6A rhyfel a fu rhwng Rehoboam a Jeroboam holl ddyddiau ei einioes. º
7A’r rhan arall o weithredoedd Abeiam, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronid bren¬hinoedd Jwda? A rhyfel a fu rhwng Abeiam a Jeroboam. º
8Ac Abeiam a hunodd gyda’i dadau, a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd. Ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º
9Ac yn yr ugeinfed flwyddyn i Jero¬boam brenin Israel yr aeth Asa yn frenin ar Jwda. º
10Ac un flynedd a deugain y teyrnas¬odd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom. º
11Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel Dafydd ei dad. º
12Ac efe a yrrodd ymaith y gwŷr sodomiaidd o’r wlad, ac a fwriodd ymaith yr holl ddelwau a wnaethai ei dadau. º
13Ac efe a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines, oherwydd gwneuthur ohoni hi ddelw mewn llwyn; ac Asa a ddrylliodd ei delw hi, ac a’i llosgodd wrth afon Cidron. º
14Ond ni fwriwyd ymaith yr uchelfeydd xxx: eto calon Asa oedd berffaith gyda’r ARGLWYDD ei holl ddyddiau ef. º
15Ac efe a ddug i mewn gysegredig bethau ei dad, a’r pethau a gysegrasai efe ei hun, i dŷ yr ARGLWYDD, yn arian, yn aur, ac yn llestri. º
16A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt. º
17A Baasa brenin Israel a aeth i fyny yn erbyn Jwda, ac a adeiladodd Rama, fel na adawai efe i neb fyned allan na dyfod i mewn at Asa brenin Jwda. º
18Yna Asa a gymerodd yr holl arias a’r aur a adawsid yn nhrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau t y brenin, ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw ei weision; a’r brenin Asa a anfonodd at Benhadad mab TabRimmon, mab Hesion, brenin Syria, yr hwn oedd yn trigo yn Damascus, gan ddywedyd, º
19Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, rhwng fy nhad i a’th dad di: wele, mi a anfonais i ti anrheg o arian ac aur; tyred, diddyma dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi. º
20Felly Benhadad a wrandawodd af y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ganddo ef, yn erbyn dinasoedd Israel, ac a drawodd Ijon, a Dan, ac Abel-bethmaacha, a holl Cinneroth, gyda holl wlad Nafftali. º
21A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama; ac a drigodd yn Tirsa. º
22Yna y brenin Asa a gasglodd holl Jwda, heb lysu neb: a hwy a gymerasant gerrig Rama, a’i choed, a’r rhai yr adeiladasai Baasa; a’r brenin Asa a adeiladodd a hwynt Geba Benjamin, a Mispa. º
23A’r rhan arall o holl hanes Asa, a’i holl gadernid ef, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’r dinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronid brenhinoedd Jwda? eithr yn amser ei henaint efe a glafychodd o’i draed. º
24Ac Asa a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad; a Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º
25A Nadab mab Jeroboam a dfccfareuodd deyrnasu ar Israel yn yr afl flwyddyn i Asa brenin Jwda; ac a deyrn asodd ar Israel ddwy flynedd. º
26Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ei bechod ef a’ hwn y gwnaeth efe i Israel bechu. º
27A Baasa mab Ahia, o dŷ Issachar* a gydfwriadodd yn ei erbyn ef; a Baasa a’i trawodd ef yn Gibbethon eiddo y Philistiaid: canys Nadab a holl Israel oedd yn gwarchae ar Gibbethon. º
28A Baasa a’i lladdodd ef yn y drydedB flwyddyn i Asa brenin Jwda, ac a deyrn¬asodd yn ei le ef. º
29A phan deyrnasodd, efe a drawodd holl dy Jeroboam; ni adawodd un per* chen anadl i Jeroboam, nes ei ddifetha ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahia y Siloniad: º
30Am bechodau Jeroboam y rhai a bechasai efe, a thrwy y rhai y gwnaethai efe i Israel bechu; oherwydd ei waith ef yn digio ARGLWYDD DDUW Israel. º
31A’r rhan arall o hanes Nadab, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronid brenhinoedd Israel? º
32A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt. º
33Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Baasa mab Ahia ar holl Israel yn Tirsa, bedair blynedd ar hugain. º
34Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod ef trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.