Ail Lyfr y Brenhinoedd 16
1VT NA y daeth gair yr ARGLWYDD at Jehu mab Hanani yn erbyn Baasa, gan ddywedyd, º
2Oherwydd i mi dy ddyrchafu o’r llwch, a’th wneuthur yn flaenor ar fy mhobl Israel, a rhodio ohonot tithau yn ffordd Jeroboam, a pheri i’m pobl Israel bechu, gan fy nigio a’u pechodau; º
3Wele fi yn torri ymaith hiliogaeth Baasa, a hiliogaeth ei dy ef: a mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat. º
4Y cwn a fwyty yr hwn fyddo marw o’r eiddo Baasa yn y ddinas; ac adar y nefoedd a fwyty yr hwn fyddo marw o’r eiddo ef yn y maes. º
5A’r rhan arall o hanes Baasa, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid ef, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? º
6A Baasa a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Tirsa; ac Ela ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º
7Hefyd trwy law Jehu mab Hanani y proffwyd y bu gair yr ARGLWYDD yn erbyn Baasa, ac yn erbyn ei d ef, oherwydd yr holl ddrygioni a wnaeth efe yng ngolwg yr ARGLWYDD, gan ei ddigio ef trwy waith ei ddwylo; gan fod fel tŷ Jeroboam, ac oblegid iddo ei ladd ef. º
8Yn y chweched fiwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Ela mab Baasa ar Israel yn Tirsa, ddwy flynedd.:. º
9A Simri ei was ef, tywysog ar hanner y cerbydau, a gydfwriadodd yn ei erbyn ef, ac efe yn yfed yn feddw, yn Tirsa, yn nhŷ Arsa, yr hwn oedd benteulu yn Tirsa. º
10A Simri a aeth ac a’i trawodd ef, ac a’i lladdodd, yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda, ac a deyrn¬asodd yn ei le ef. º
11A phan ddechreuodd efe deyrnasu, ac eistedd ar ei deyrngadair, efe a laddodd holl dy Baasa: ni adawodd efe iddo ef un gwryw, na’i geraint, na’i gyfeillion. º
12Felly Simri a ddinistriodd holl dy Baasa, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarodd efe yn erbyn Baasa trwy law Jehu y proffwyd. º
13Oherwydd holl bechodau Baasa, a phechodau Ela ei fab ef, trwy y rhai y pechasant hwy, a thrwy y rhai y gwnaethant i Israel bechu, gan ddigio AR¬GLWYDD DDUW Israel a’u gwagedd. º
14A’r rhan arall o hanes Ela, a’r hyn oil a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig. yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? º
15Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Simri saith niwrnod yn Tirsa: a’r bobl oedd yn gwersyllu yn erbyn Gibbethon eiddo y Philistiaid. º
16A chlybu y bobl y rhai oedd yn y gwersyll ddywedyd, Simri a gydfwriad¬odd, ac a laddodd y brenin. A holl Israel a goronasant Omri, tywysog y llu, yn frenin y dwthwn hwnnw ar Israel, yn y gwersyll. º
17Ac Omri a aeth i fyny, a holl Israel gydag ef, o Gibbethon; a hwy a warchae" asant ar Tirsa. º
18A phan welodd Simri fod y ddinas wedi ei hennill, efe a aeth i balas tŷ y brenin, ac a losgodd dy y brenin am ei ben â thân, ac a fu farw; º
19Am ei bechodau yn y rhai y pechodd efe, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, gan rodio yn ffordd Jero¬boam, ac yn ei bechod a wnaeth efe i bed i Israel bechu. º
20A’r rhan arall o hanes Simri, a 1 gydfradwriaeth a gydfwriadodd efe; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? º
21Yna yr ymrannodd pobl Israel yn ddwy ran: rhan o’r bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath, i’w osod ef yn frenin, a rhan ar ôl Omri. º
22A’r bobl oedd ar ôl Omri a orchfygodd y bobl oedd ar ôl Tibni ma 6 Ginath: felly Tibni a fu farw, ac Omri a deyrnasodd. º
23Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Omri ar Israel ddeuddeng mlynedd: yn Tirsa y teyrnasodd efe chwe blynedd. º
24Ac efe a brynodd fynydd Samaria gan Semer, er dwy dalent o arian; ac a adeiladodd yn y mynydd, ac a alwodd enw y ddinas a adeiladasai efe, ar ôl enw Semer, arglwydd y mynydd, Samaria. º
25Ond Omri a wnaeth ddrygioni yng ngŵydd yr ARGLWYDD, ac a wnaeth yn waeth na’r holl rai a fuasai o’i flaen ef. º
26Canys efe a rodiodd yn holl ffordd Jeroboam mab Nebat, ac yn ei bechod ef trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu, gan ddigio ARGLWYDD DDUW Israel a’u gwagedd hwynt. º
27A’r rhan arall o hanes Omri, yr hyn a wnaeth efe, a’i rymuster a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?..’. º
28Ac Omri a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria, ac Ahab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.;; º
29Ac Ahab mab Omri a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn y drydedd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asa brenin Jwda: ac Ahab mab Omri a deyrnasodd ar Israel yn Samaria ddwy flynedd ar hugain. º
30Ac Ahab mab Omri a wnaeth ddryg¬ioni yng ngolwg yr ARGLWYDD y tu hwnt i bawb o’i flaen ef. º
31Canys ysgafn oedd ganddo ef rodio ym mhechodau Jeroboam mab Nebat, ac efe a gymerth yn wraig Jesebel merch Ethbaal brenin y Sidoniaid, ac a aeth ac a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo. º
32Ac efe. a gyfododd allor i Baal yn nhŷ Baal, yr hwn a adeiladasai efe yn Samaria. º
33Ac Ahab a wnaeth lwyn. Ac Ahab a wnaeth fwy i ddigio ARGLWYDD DDUW Israel na holl frenhinoedd Israel a fuasai o’i flaen ef.;’ º
34Yn ei ddyddiau efHiel y Betheliad a adeiladodd Jericho: yn Abiram ei gyntaf-anedig y sylfaenodd efe hi, ac yn Scgub ei fab ieuangaf y gosododd efe ia phyrth hi, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law Josua mab Nun.