The Bible Software
Ail Lyfr y Brenhinoedd · Beibl (1620)

Ail Lyfr y Brenhinoedd 17

1A Eleias y Thesbiad, un o breswylwyr Gilead, a ddywedodd wrth Ahab, Fel mai byw ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni bydd y blynyddoedd hyn na gwlith na glaw, ond yn ôl fy ngair i. º

2A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, º

3DOS oddi yma, a thro tua’r dwyrain, ac ymguddia wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen. º

4Ac o’r afon yr yfi; a mi a berais i’r cigfrain dy borthi di yno. º

5Felly efe a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair yr ARGLWYDD; canys efe a aeth, ac a arhosodd wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen. º

6A’r cigfrain a ddygent iddo fara a chig y bore, a bara a chig brynhawn; ac efe a yfai o’r afon. º

7Ac yn ôl talm o ddyddiau y sychodd yr afon, oblegid na buasai law yn y wlad; º

8A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, º

9Cyfod, dos i Sareffta, yr hon sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno: wele, gorchmynnais i wraig weddw dy borthi di yno. º

10Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Sareffta. A phan ddaeth efe at borth y ddinas, wele yno wraig weddw yn casglu briwydd: ac efe a alwodd arni, ac a ddy¬wedodd, Dwg, atolwg, i mi ychydig ddwfr mewn llestr, fel yr yfwyf. º

11Ac a hi yn myned i’w gyrchu, efe a alwodd arni, ac a ddywedodd, Dwg, atolwg, i mi damaid o fara yn dy law. º

12A hi a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD dy DDUW, nid oes gennyf deisen, ond llonaid llaw o flawd mewn celwrn, ac ychydig olew mewn ysten: ac wele fi yn casglu dau o friwydd, i fyned i mewn, ac i baratoi hynny i mi ac i’m mab, fel y bwytaom hynny, ac y byddom feirw. º

13Ac Eleias a ddywedodd wrthi, Nac ofna; dos, gwna yn ôl dy air: eto gwna i mi o hynny deisen fechan yn gyntaf, a dwg i mi; a gwna i ti ac i’th fab ar ôl hynny. º

14Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Y blawd yn y celwrn ni threulir, a’r olew o’r ysten ni dderfydd, hyd y dydd y rhoddo yr ARGLWYDD law ar wyneb y ddaear. º

15A hi a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair Eleias: a hi a fwytaodd, ac yntau, a’i thylwyth, ysbaid blwyddyn.. ‘ º

16Ni ddarfu y celwrn blawd, a’r ysten ©kw ni ddarfu, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a ddywedasai efe trwy law Eleias. º

17Ac wedi y pethau hyn y clafychodd mab gwraig y tŷ, ac yr oedd ei glefyd ef Stior gryf, fel na thrigodd anadl ynddo. º

18A hi a ddywedodd wrth Eleias, Beth Sydd i mi a wnelwyf a thi, gŵr Duw? a ddaethost ti ataf i goffau fy anwiredd, flc i ladd fy mab? º

19Ac efe a ddywedodd wrthi, Moes i mi dy fab. Ac efe a’i cymerth ef o’i Jnynwes hi, ac a’i dug ef i fyny i ystafell yr oedd efe yn aros ynddi, ac a’i gosododd ef ar ei wely ei hun. º

20Ac efe a lefodd ar yr ARGLWYDD, ac 8 ddywedodd, O ARGLWYDD fy Now, a ddrygaist ti y wraig weddw yr ydwyf fi yn ymdeithio gyda hi, gan ladd ei mab hi? º

21Ac efe a ymestynnodd ar y bachgen dair gwaith, ac a lefodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD fy Nuw, dychweled, atolwg, enaid y bachgen hwn iddo eilwaith. º

22A’r ARGLWYDD a wrandawodd ar lef Eleias; ac enaid y bachgen a ddychwelodd i mewn iddo, ac efe a ddadebrodd. º

23Ac Eleias a gymerodd y bachgen, ac a’i dug ef i waered o’r ystafell i’r tŷ, ac a’i rhoddes ef i’w fam: ac Eleias a ddywedodd, gwêl, byw yw dy fab. º

24A’r wraig a ddywedodd wrth Eleias, Yn awr wrth hyn y gwn mai gŵr Duw ydwyt ti, ac mai gwirionedd yw gair yr ARGLWYDD yn dy enau di.

← Ail Lyfr y Brenhinoedd 16Read In The App, Free →Ail Lyfr y Brenhinoedd 18 →

Study Ail Lyfr y Brenhinoedd 17

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122