Ail Lyfr y Brenhinoedd 17:13
Ac Eleias a ddywedodd wrthi, Nac ofna; dos, gwna yn ôl dy air: eto gwna i mi o hynny deisen fechan yn gyntaf, a dwg i mi; a gwna i ti ac i’th fab ar ôl hynny. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 17
Cross References
Genesis 26:24A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo y noson honno, ac a ddywedodd, Myfi yw Duw Abraham dy dad ti: nac ofna; canys byddaf gyd â thi, ac a’th fendithiaf, ac a lïosogaf dy had er mwyn Abraham fy ngwas.
Judges 7:5Felly efe a ddygodd y bobl i waered at y dyfroedd. A dywedodd yr AR¬GLWYDD wrth Gedeon, Pob un a lepio â’i dafod o’r dwfr fel y llepio ci, gosod ef o’r neilltu; a phob un a ymgrymo ar ei liniau i yfed.
2 Chronicles 20:17Nid rhaid i chwi ymladd yn y rhyfel hwn: sefwch yn llonydd, a gwelwch ymwared yr ARGLWYDD tuag atoch, O Jwda a Jerwsalem: nac ofnwch, ac na ddigalonnwch: ewch yfory allan yn eu herbyn hwynt a’r ARGLWYDD fydd gyda chwi.
Isaiah 41:10Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: na lwfrha; canys myfi yw dy DDUW: cadarnhaf di, cynorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di a deheulaw fy nghyfiawnder. º
Malachi 3:10Dygwch yr holl ddegwm i'r trysordy, fel y byddo bwyd yn fy nhy^, a phrofwch fi yr awr hon yn hyn, medd ARGLWYDD y lluoedd, onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd, a thywallt i chwi fendith, fel na byddo digon o le i'w derbyn.
Matthew 10:37Yr hwn sydd yn carum tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi: a’r neb sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi.