Ail Lyfr y Brenhinoedd 18
1A ar ôl dyddiau lawer daeth gair yr ARGLWYDD at Eleias, yn y drydedd flwyddyn, gan ddywedyd, DOS, ymddangos i Ahab; a mi a roddaf law ar, wyneb y ddaear. º
2Ac Eleias a aeth i ymddangos i Ahab. A’r newyn oedd dost yn Samaria. º
3Ac Ahab a alwodd Obadeia, yr hwn oedd benteulu iddo: (ac Obadeia oedd yn ofni yr ARGLWYDD yn fawr:;
4Canys pan ddistrywiodd Jesebel btoffwydi yr ARGLWYDD, Obadeia a gymerodd gant o broffwydi, ac a’u cudd- aodd hwynt bob yn ddeg a deugain mewn ogof, ac a’u porthodd hwynt a bara ac & dwfr.) º
5Ac Ahab a ddywedodd wrth Obadeia, DOS i’r wlad, at bob ffynnon ddwfr, ac at yr holl afonydd: ysgatfydd ni a gawn laswellt, fel y cadwom yn fyw y ceffylau a’r mulod, fel na adawom i’r holl anifeiliaid golli. º
6Felly hwy a ranasant y wlad rhyngddynt i’w cherdded: Ahab a aeth y naill ffordd ei hunan, ac Obadeia a aeth y ffordd arall ei hunan. º
7Ac fel yr oedd Obadeia ar y ffordd, wele Eleias yn ei gyfarfod ef: ac efe a’i hadnabu ef, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ddywedodd, Onid ti yw fy arglwydd Eleias? º
8Yntau a ddywedodd wrtho. Ie, myfi: dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias. º
9Dywedodd yntau. Pa bechod a wneuthum i, pan roddit ti dy was yn llaw Ahab i’m lladd? º
10Fel mai byw yr ARGLWYDD dyDDUW, nid oes genedl na brenhiniaeth yr hon ni ddanfonodd fy arglwydd iddi i’th geisio di; a phan ddywedent, Nid yw efe yma, efe a dyngai y frenhiniaeth a’r genedl, na chawsent dydi. º
11Ac yn awr yr wyt ti yn dywedyd, DOS, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias. º
12A phan elwyf fi oddi wrthyt ti, ysbryd yr ARGLWYDD a’th gymer di lle nis gwn i; a phan ddelwyfi fynegi i Ahab, ac yntau heb dy gael di, efe a’m lladd i: ond y mae dy was di yn ofni yr ARGLWYDD 6’m mebyd. º
13Oni fynegwyd i’m harglwydd yr hyn ‘ wneuthum i, pan laddodd Jesebel broffwydi yr ARGLWYDD, fel y cuddiais gannwr o broffwydi yr ARGLWYDD, bob yn ddengwr a deugain mewn ogof, ac y porthais hwynt a bara ac a dwfr? º
14Ac yn awr ti a ddywedi, DOS, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias: ac efe a’m lladd i. º
15A dywedodd Eleias, Fel mai byw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn yr wyf yn sefyll ger ei fron, heddiw yn ddiau yr ymddangosaf iddo ef.,’ º
16Yna Obadeia a aeth i gyfarfod Ahab, ac a fynegodd iddo. Ac Ahab a aeth i gyfarfod Eleias. º
17A phan welodd Ahab Eleias, Ahab a ddywedodd wrtho, Onid ti yw yr hwn sydd yn blino Israel? º
18Ac efe a ddywedodd, Ni flinais i Israel; ond tydi, a thŷ dy dad: am i chwi wrthod gorchmynion yr ARGLWYDD, ac i ti rodio ar ôl Baalim. º
19Yn awr gan hynny anfon, a chasgl ataf holl Israel i fynydd Carmel, a phroffwydi Baal, pedwar cant a deg a deugain, a phroffwydi y llwyni, pedwar cant, y rhai sydd yn bwyta ar fwrdd Jezebel. º
20Felly Ahab a anfonodd at holl feibioa; Israel, ac a gasglodd y proffwydi ynghyd: i fynydd Carmel. º
21Ac Eleias a ddaeth at yr holl bobl, ac a ddywedodd. Pa hyd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl? os yr ARGLWYDD sydd DDUW, ewch ar ei ôl ef; ond os Baal, ewch ar ei ôl yntau. A’r bobl nid atebasant iddo air. º
22Yna y dywedodd Eleias wrth y bobl, Myfi fy hunan wyf yn fyw o broffwydi yr ARGLWYDD; ond proffwydi Baal ydynt bedwar cant a dengwr a deugain. º
23Rhodder gan hynny i ni ddau fustach: a dewisant hwy iddynt un bustach, a darniant ef, a gosodant ar goed, ond na osodant dan dano: a minnau a baratoaf y bustach arall, ac a’i gosodaf ar goed, ac ni roddaf dan dano. º
24A gelwch chwi ar enw eich duwiau, a minnau a alwaf ar enw yr ARGLWYDD: a’r Duw a atebo trwy dfin, bydded efe DDUW. A’r holl bobl a atebasant ac a ddywedasant. Da yw y peth. º
25Ac Eleias a ddywedodd wrth broff¬wydi Baal, Dewiswch i chwi un bustach, a pharatowch ef yn gyntaf; canys llawer ydych chwi: a gelwch ar enw eich duwiau, ond na osodwch dan dano. º
26A hwy a gymerasant y bustach a roddasid iddynt, ac a’i paratoesant, ac a alwasant ar enw Baal o’r bore hyd hanner dydd, gan ddywedyd, Baal, gwrando ni;} ond nid oedd llef, na neb yn ateb: a hwy a lamasant ar yr allor a wnaethid. º
27A bu, ar hanner dydd,’f Eleias ‘eu gwatwar hwynt, a dywedyd, Gwaeddwch a llef uchel: canys duw yw efe; naill ai ymddiddan y mae, neu erlid, neu ymdeithio y mae efe; fe a allai ei fod yn cysgu, ac mai rhaid ei ddeffro ef. º
28A hwy a waeddasant a llef uchel, ac a’u torasant eu hunain yn ôl eu harfer a chyllyll ac ag ellynod, nes i’r gwaed ffrydio arnynt. º
29Ac wedi iddi fyned dros hanner dyidd, a phronwydo ohonynt nes offrymu yr hwyronrwm; eto nid oedd llef, na neb yn ateb, nac yn ystyried. º
30A dywedodd Eleias wrth yr holl bobl, Nesewch ataf fi. A’r holl bobl a nesasant ato ef. Ac efe a gyweiriodd allor yr ARGLWYDD, yr hon a ddrylliasid. º
31Ac Eleias a gymerth ddeuddeg o gerrig, yn ôl rhifedi llwythau meibion Jacob, yr hwn y daethai gair yr AR¬GLWYDD ato, gan ddywedyd, Israel fydd dy enw di. º
32Ac efe a adeiladodd a’r meini allor yn enw yr ARGLWYDD; ac a wnaeth fibs o gylch lle dau fesur o had, o amgylch yr allor. º
33Ac efe a drefnodd y coed, ac a ddarniodd y bustach, ac a’i gosododd ar y coed; º
34Ac a ddywedodd, Llenwch bedwar celyrnaid o ddwfr, a thywelltwch ar y poethoffrwm, ac ar y coed. Ac efe a ddy¬wedodd, Gwnewch eilwaith; a hwy a wnaethant eilwaith. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch y drydedd waith; a hwy a wnaethant y drydedd waith. º
35A’r dyfroedd a aethant o amgylch yr allor, ac a lanwodd y ffos o ddwfr. º
36A phan offrymid yr hwyronrwm, Eleias y proflwyd a nesaodd ac a ddywed¬odd, O ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddiw mai ti sydd DDUW yn Israel, a minnau yn was i ti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn. º
37Gwrando fi, O ARGLWYDD, gwrando fi, fel y gwypo y bobl hyn mai tydi yw yr ARGLWYDD DDUW, ac mai ti a ddychwel¬odd eu calon hwy drachefn.
38Yna tan yr ARGLWYDD a syrthiodd, ac a ysodd y poethoffrwm, a’r coed, a’r cerrig, a’r llwch, ac a leibiodd y dwfr oedd yn y fibs. º
39A’r holl bobl a welsant, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, Yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW, yr ARGLWYDD, efe sydd DDUW. º
40Ac Eleias a ddywedodd wrthynt hwy, Deliwch broffwydi Baal; na ddihanged gŵr ohonynt. A hwy a’u daliasant: ac Eleias a’u dygodd hwynt i waered i afon Cison, ac a’u lladdodd hwynt yno. º
41Ac Eleias a ddywedodd wrth Ahab, ©os i fyny, bwyta ac yf, canys wele drwst llawcr o law. º
42Felly Ahab a aeth i fyny i fwyta ac i yfed. Ac Eleias a aeth i fyny i ben Carmel; ac a ymostyngodd ar y ddaear, ac a osododd ei wyneb rhwng ei liniau; º
43Ac a ddywedodd wrth ei lane, DOS i fyny yn awr, edrych tua’r môr. Ac efe a aeth i fyny ac a edrychodd, ac a ddywed¬odd, Nid oes dim. Dywedodd yntau, DOS eto saith waith. º
44A’r seithfed waith y dywedodd efe, Wele gwmwl bychan fel cledr llaw gŵr yn dyrchafu o’r môr. A dywedodd yntau, DOS i fyny, dywed wrth Ahab, Rhwym dy gerbyd, a dos i waered, fel na’th rwystro y glaw. º
45Ac yn yr ennyd honno y nefoedd a dduodd gan gymylau a gwynt; a bu glaw mawr. Ac Ahab a farchogodd, ac a aeth i Jesreel. º
46A llaw yr ARGLWYDD oedd ar Eleias, ac efe a wregysodd ei lwynau, ac a redodd o flaen Ahab nes ei ddyfod i Jesreel.