Ail Lyfr y Brenhinoedd 2:32
A’r ARGLWYDD a ddychwel ei waed ef ar ei ben ei hun; o herwydd efe a ruthrodd ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, ac a’u lladdodd hwynt â’r cleddyf, a Dafydd fy nhad heb wybod; sef Abner mab Ner, tywysog llu Israel, ac Amasa mab Jether, tywysog llu Jwda.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 2
Cross References
Genesis 4:11Ac yr awr hon melldigedig wyt ti o’r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o’th law di.
Numbers 32:23Ond os chwi ni wna fel hyn; wele, pechu yr ydych yn erbyn yr Arglwydd: a gwybyddwch y goddiwedda eich pechod chwi.
Judges 9:57A holl ddrygioni gwŷr Sichem a dalodd Duw ar eu pen hwynt: a melltith Jotham mab Jerubbaal a ddaeth arnynt hwy.
2 Samuel 3:26A Joab aaeth allan oddi wrth Dafydd, ac a anfonodd genhadau ar ôl Abner; a hwy a’i dygasant ef yn ôl oddi wrth ffynnon Sira; heb wybod i Dafydd.
2 Samuel 3:37A’r holl bobl a holl Israel a wybuant y diwrnod hwnnw, na ddarfuasai o fodd y brenin ladd Abner mab Ner.
2 Samuel 17:25Ac Absalom a osododd Amasa yn lle Joab ar y llu, Ac Amasa oedd fab i ŵr a’i enw Ithra, yr hwn oedd Israeliad, yr hwn a aeth i mewn at Abigail merch Nahas, chwaer Serfia, main Joab. º