Ail Lyfr y Brenhinoedd 2:44
A dywedodd y brenin wrth Simei, Ti a wyddost yr holl ddrygioni a ŵyr dy galon, yr hwn a wnaethost ti yn erbyn Dafydd fy nhad: yr ARGLWYDD am hynny a ddychwelodd dy ddrygioni di ar dy ben dy hun;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
43Paham gan hynny na chedwaist lw yr ARGLWYDD, a’r gorchymyn a orchmynnais i ti,?
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 2
Cross References
1 Samuel 25:39A phan glybu Dafydd farw Nabal, efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn a ddadleuodd achos fy sarhad i oddi ar law Nabal, ac a ataliodd ei was rhag drwg: canys yr ARGLWYDD a drodd ddrygioni Nabal ar ei ben ei hun. Dafydd hefyd a anfonodd i ymddiddan ag Abigail, am ei chymryd hi yn wraig iddo. º
1 Kings 2:32A’r ARGLWYDD a ddychwel ei waed ef ar ei ben ei hun; o herwydd efe a ruthrodd ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, ac a’u lladdodd hwynt â’r cleddyf, a Dafydd fy nhad heb wybod; sef Abner mab Ner, tywysog llu Israel, ac Amasa mab Jether, tywysog llu Jwda.
Proverbs 5:22Ei anwiredd ei hun a ddeil yr annuwiol, ac efe a ddelir â rhaffau ei bechod ei hun.
Hosea 4:9A bydd yr un fath, bobl ac offeiriad: ac ymwelaf â hwynt am eu ffyrdd, a thalaf iddynt eu gweithredoedd.
Romans 2:15Y rhai sydd yn dangos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, a’u cydwybod yn cyd-dystiolaethu, a’u meddyliau yn cyhuddo ei gilydd, neu yn esgusodi;)