Ail Lyfr y Brenhinoedd 20:10
A Benhadad a anfonodd ato ef, ac a ddywedodd, Fel hyn y gwnelo y duwiau i mi, ac fel hyn y chwanegont, os bydd pridd Samaria ddigon o ddyrneidiau i’r holl bobl sydd i’m canlyn i. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 20
Cross References
Exodus 11:8A’th holl weision hyn a ddeuant i waered attaf fi, ac a ymgrymmant i mi, gan ddywedyd, Dos allan, a’r holl bobl sydd ar dy ol; ac wedi hynny yr âf fi allan. Felly efe a aeth allan oddi wrth Pharaoh mewn digllonedd llidiog.
2 Samuel 17:12Felly y deuwn arno ef i un o’r lleoedd yr hwn y ceffir ef ynddo, ao a ruthrwn arno ef fel y syrth y gwlith ar y ddaear: ac ni adewir dim ohono ef, nac un chwaith o’r holl wŷr sydd gydag ef. º
1 Kings 19:2Yna Jesebel a anfonodd gennad at Eleias, gan ddywedyd. Fel hyn y gwnelo y duwiau, ac fel hyn y chwanegont, oni wnaf erbyn y pryd hwn yfory dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy. º
2 Kings 19:23Trwy law dy genhadau y ceblaist ti yr ARGLWYDD, ac y dywedaist, A lliaws fy ngherbydau y dringais i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd ef, a’i ddewis ffynidwydd ef, af hefyd i’w lety eithaf, ac i goedwig ei ddoldir ef. º
Isaiah 37:24Trwy law dy weision y ceblaist yr Arglwydd, ac y dywedaist, A lliaws fy ngherbydau y deuthum i fyny i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd, a’i ddewis ffynidwydd; af hefyd i’w gŵr uchaf, ac i goed ei ddoldir. º