The Bible Software
Ail Lyfr y Brenhinoedd · Beibl (1620)

Ail Lyfr y Brenhinoedd 22

1Abuant yn aros dair blynedd heb ryfel rhwng Syria ac Israel. º

2Ac yn y drydedd flwyddyn, Jehosaffat brenin Jwda a ddaeth i waered at frenin Israel. º

3A brenin Israel a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch mai eiddo ni yw RamothGilead, a’n bod ni yn tewi, heb ei dwyn hi o law brenin Syria? º

4Ac efe a ddywedodd wrth Jehosaffat, A ei gyda mi i ryfel i RamothGilead? A Jehosaffat a ddywedodd wrth frenin Israel, Yr ydwyf fi fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau. º

5Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw a gair yr ARGLWYDD. º

6Yna brenin Israel a gasglodd y proffwydi, ynghylch pedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A af fi yn erbyn RamothGilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, DOS i fyny; canys yr ARGLWYDD a’i dyry hi yn llaw y brenin. º

7A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i’r ARGLWYDD mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef? º

8A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori a’r ARGLWYDD: eithr cas yw gennyf fi ef, canys ni phroffwyda efe i mi ddaioni, namyn drygioni; Michea mab Jimla yw efe. A dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly. º

9Yna brenin Israel a alwodd ar un o’i ystafellyddion, ac a ddywedodd, Prysura yma Michea mab Jimla. º

10A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair, wedi gwisgo eu brenhinol wisgoedd, mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria, a’r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt. º

11A Sedeceia mab Cenaana a wnaeth iddo gyrn heyrn; ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, A’r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes i ti eu difa hwynt. º

12A’r holl broffwydi oedd yn proff¬wydo fel hyn, gan ddywedyd, DOS i fyny i RamothGilead, a llwydda; canys yr ARGLWYDD a’i dyry hi yn llaw y brenin. º

13A’r gennad a aethai i alw Michea a lefarodd wrtho ef, gan ddywedyd, Wele yn awr eiriau y proffwydi yn unair yn dda i’r brenin: bydded, atolwg, dy air dithau fel gair un ohonynt, a dywed y gorau. º

14A dywedodd Michea, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hyn a ddywedo yr ARGLWYDD wrthyf, hynny a lefaraf fi. º

15Felly efe a ddaeth at y brenin. A’r brenin a ddywedodd wrtho, Michea, a awn ni i ryfel yn erbyn RamothGilead, 31 peidio? Dywedodd yntau wrtho, DOS i fyny, a llwydda; canys yr ARGLWYDD a’i dyry hi yn llaw y brenin. º

16A’r brenin a ddywedodd wrtho. Pa sawl gwaith y’th dynghedaf di, na ddywedych wrthyf ond gwirionedd yn enw yr ARGLWYDD? º

17Ac efe a ddywedodd, Gwelais holl Israel ar wasgar ar hyd y mynyddoedd, fel defaid ni byddai iddynt fugail. A dywedodd yr ARGLWYDD, Nid oes feistr arnynt hwy; dychweled pob un i’w d ei hun mewn heddwch. º

18A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Oni ddywedais i wrthyt ti, na phroffwydai efe ddaioni i mi, eithr drygioni? º

19Ac efe a ddywedodd, Clyw gan hynny air yr ARGLWYDD: Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu’r nefoedd yn sefyll yn ei ymyi, ar ei law ddeau ac ar ei law aswy. º

20A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Pwy a dwylla Ahab, fel yr elo efe i fyny ac y syrthio yn RamothGilead? Ac un a ddywedodd fel hyn, ac arall oedd yn dywedyd fel hyn. º

21Ac ysbryd a ddaeth allan, ac a safodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddy¬wedodd, Myfi a’i twyllaf ef. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho. Pa fodd? º

22Dywedodd yntau. Mi a af allan, ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei holl broffwydi ef. Ac efe a ddywedodd, Twylli a gorchfygi ef: dos ymaith, a gwna felly. º

23Ac yn awr wele, yr ARGLWYDD a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy holl broffwydi hyn; a’r ARGLWYDD a lefarodd ddrwg amdanat ti. º

24Ond Sedeceia mab Cenaana a nesaodd, ac a drawodd Michea dan ei gem, ac a ddywedodd. Pa fibrdd yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i ymddiddani a thydi? º

25A Michea a ddywedodd, Wele, ti a gei weled y dwthwn hwnnw, pan elycb di o ystafell i ystafell i ymguddio. º

26A brenin Israel a ddywedodd, Cymer Michea, a dwg ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas, ac at Joas mab. y brenin; º

27A dywed.xxx Fel hyn y dywed y brenin;; Rhowch hwn yn y carchardy, a bwydwch ef a bara cystudd ac a dwfr blinder, nes v mi ddyfod mewn heddwch. º

28A dywedodd Michea, Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch, ni lefarodd yr ARGLWYDD ynoffi. Dywed¬odd hefyd, Gwrandewch hyn yr hott bobl. º

29Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i RamothGilead. º

30A brenin Israel a ddywedodd with Jehosaffat, Mi a newidiaf fy nillad, ac s af i’r rhyfel; ond gwisg di dy ddillad dy him. A brenin Israel a newidiodd ei ddillad, ac a aeth i’r rhyfel. º

31A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau oedd ganddo, sef deuddeg ar hugain, gan ddywedyd, Nac ymleddwch a bychan nac a mawr, ond a brenin Israel yn unig. º

32A phan welodd tywysogion y cerbyd¬au Jehosaffat, hwy a ddywedasaat, Diau brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef: a Jehosaffat a waeddodd. º

33A phan welodd tywysogion y cerbydrau nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef. º

34A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ac ei amcan, ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig; am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy law, a dwg fi allan o’r fyddin, canys fe a’m clwyfwyd i. º

35A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw: a’r brenin a gynhelid i fyny yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid; ac efe a fu farw gyda’r hwyr: a gwaed yr archoll a ffrydiodd i ganol y cerbyd. º

36Ac fe aeth cyhoeddiad trwy y gwersyll ynghylch machludiad yr haul, gan ddywedyd, Eled pob un fw ddinas, a phob un i’w wlad ei hun. º

37Felly y bu farw y bienin, ac y daeth efe i Samaria; a hwy a giaddasant y brenin yn Samaria. º

38A golchwyd ei gerbyd ef yn llyn Samaria; a’r cwn a lyfasant ei waed ef:’ yr arfau hefyd a olchwyd; yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe. º

39A’r rhan arall o hanesion Ahab, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’r tŷ ifori a adeilad odd efe, a’r holl ddinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? º

40Felly Ahab a hunodd gyda’i dadau, ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º

41A Jehosaffat mab Asa a aeth yn frenin ar Jwda yn y bedwaredd flwyddyn i Ahab brenin Israel. º

42Jehosaffat oedd fab pymtheng mlwydd ar hugain pan aeth efe yn frenin: a phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Asuba, merch Silhi. º

43Ac efe a rodiodd yn holl ffordd Asa ei dad, ni wyrodd efe oddi wrthi hi, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogl-darthu yn yr uchelfeydd. º

44A Jehosaffat a heddychodd a brenin Israel. º

45A’r rhan arall o hanes Jehosaffat, a’i rymustra a wnaeth efe, a’r modd y rhy-felodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifen¬edig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? º

46A’r rhan arall o’r sodomiaid a’r a-adawyd yn nyddiau Asa ei dad ef, efe a’u dileodd o’r wlad. º

47Yna nid oedd brenin yn Edom: ond rhaglaw oedd yn lle brenin. º

48Jehosaffat a wnaeth longau môr i; fyned i Offir am. aur: ond nid aethaat, canys y llongau a ddrylliodd yn. Esisaaftr Gaber. º

49Yna y dywedodd Ahaseia mab Ahab wrth Jehosaffat, Eled fy ngweision i gyda’th weision di yn y llongau: ond ni fynnai Jehosaffat. º

50A Jehosaffat a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad; a Jehoram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º

51Ahaseia mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i. Jehosaffat brenin Jwda; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd. º

52Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ffordd ei fam, ac yn ffordd Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth. i Israel bechu. º

53Canys efe a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo, ac a ddigiodd AR¬GLWYDD DDUW Israel, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad.

← Ail Lyfr y Brenhinoedd 21Read In The App, Free →2 Kings 1 →

Study Ail Lyfr y Brenhinoedd 22

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122