Ail Lyfr y Brenhinoedd 3:15
A Solomon a ddeffrodd; ac wele, breuddwyd oedd. Ac efe a ddaeth i Jerwsalem, ac a safodd o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac a offrymodd offrymau poeth, ac a aberthodd aberthau hedd, ac a wnaeth wledd i’w holl weision.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
16Yna dwy wraig o buteiniaid a ddaethant at y brenin, ac a safasant ger ei fron ef.
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 3
Cross References
Genesis 31:54Hefyd Jacob a aberthodd aberth yn y mynydd, ac a alwodd ar ei frodyr i fwytta bara: a hwy a fwyttasant fara, ac a drigasant dros nos yn y mynydd.
Genesis 41:7A’r tywysennau teneuon a lyngcasant y saith dywysen fraisg a llawn. A deffrôdd Pharaoh; ac wele breuddwyd oedd.
Leviticus 7:11Dyma hefyd gyfraith yr ebyrth hedd a offrymma efe i’r Arglwydd.
1 Kings 8:63A Solomon a aberthodd aberth hedd, yr hwn a offrymodd efe i’r ARGLWYDD, sef dwy fil ar hugain o wartheg, a chwech ugain mil o ddefaid. Felly y brenin a holl feibion Israel a gyseg-rasant dŷ yr ARGLWYDD.,. º
1 Chronicles 16:1FELLY y dygasant hwy arch Duw i mewn, ac a’i gosodasant hi yng nghanol y babell a osodasai Dafydd iddi hi: a hwy a offrymasant offrymau poeth ac ebyrth hedd gerbron Duw. º
2 Chronicles 7:5A’r brenin Solomon a aberthodd aberth o ddwy fil ar hugain o ychen, a chwech ugain mil o ddefaid: felly y brenin a’r holl bobl a gysegrasant dŷ DDUW.