Ail Lyfr y Brenhinoedd 3:7
Ac yn awr, O ARGLWYDD fy Nuw, ti a wnaethost i’th was deyrnasu yn lle Dafydd fy nhad: a minnau yn fachgen bychan: ni fedraf fyned nac allan nac i mewn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 3
Cross References
Deuteronomy 31:2Ac a ddywedodd wrthynt, Mab chwe ugain mlynedd ydwyf fi heddyw; ni allaf mwy fyned allan, a dyfod i mewn: yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrthyf, Ni chei fyned dros yr Iorddonen hon.
2 Samuel 5:2Cyn hyn hefyd; pan oedd Saul yn frenin arnom ni, ti oeddit yn arwain Israel allan, ac yn eu dwyn i mewn: a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt ti, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi yn flaenor ar Israel.
1 Chronicles 29:1YNA y dywedodd Dafydd y brenhin wrth yr holl dyrfa, Duw a ddewisodd yn unig fy mab Solomon, ac y mae efe yn ieuanc, ac yn dyner, a’r gwaith sydd fawr; canys nid i ddyn y mae y llys, ond i’r ARGLWYDD DDUW. º
Ecclesiastes 10:16Gwae di y wlad sydd â bachgen yn frenin i ti, a’th dywysogion yn bwyta yn fore.
Daniel 2:21Ac efe sydd yn newid amserau, a thymhorau: efe sydd yn symud brenhinoedd, ac yn gosod brenhinoedd: efe sydd yn rhoddi doethineb i’r doethion, a gwybodaeth i’r rhai a fedrant ddeall: