Ail Lyfr y Brenhinoedd 4:12
Baana mab Ahilud oedd yn Taanach, a Megido, a Bethsean oll, yr hon sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Bethsean hyd Abel-mehola, hyd y tu hwnt i Jocneam.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
11Mab Abinadab oedd yn holl ardal Dor: Taffath merch Solomon oedd yn wraig iddo ef.
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 4
Cross References
Joshua 3:16Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr ym mhell iawn oddi wrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan: a’ r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i fôr y rhos, sef i’r môr heli, a ddarfuant, ac a dorrwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho.
Joshua 17:11Yn Issachar hefyd ac yn Aser yr oedd gan Manasseh, Beth-sean a’i threfydd, ac Ibleam a’i threfydd, a thrigolion Dor a’i threfydd, a thrigolion En-dor a’i threfydd, a phreswylwyr Taanach a’i threfydd, a thrigolion Megido a’i threfydd; tair talaeth.
Judges 7:22A’r tri chant a utganasant ag ut¬gyrn; a’r ARGLWYDD a osododd gleddyf pob un yn erbyn ei gilydd, trwy’r holl wersyll: felly y gwersyll a ffodd hyd Beth-sitta, yn Sererath, hyd fin Abel-mehola, hyd Tabbath.
1 Samuel 31:10A gosodasant ei arfau ef yn nhŷ Astaroth; a’i gorff ef a hoeliasant hwy ar fur Bethsan. º
1 Kings 7:46Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt mewn cleidir, rhwng Succoth a Sarthan.
1 Kings 19:16A Jehu mab Nimsi a eneini di yn frenin ar Israel; ac Eliseus mab Saffat, o Abel-mehola, a eneini di yn broffwyd yn dy Ie dy hun. º