Ail Lyfr y Brenhinoedd 4:29
A Duw a roddodd ddoethineb i Solomon, a deall mawr iawn, a helaethdra calon, fel y tywod sydd ar fin y môr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
30A doethineb Solomon oedd fwy na doethineb holl feibion y dwyrain, ac na holl ddoethineb yr Aifft.
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 4
Cross References
Judges 7:12A’r Midianiaid, a’r Amaleciaid, a holl feibion y dwyrain, oedd yn gorwedd yn y dyffryn fel locustiaid o amldra; a’u camelod oedd heb rif, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra.
1 Kings 3:28A holl Israel a glywsant y farn a farnasai y brenin; a hwy a ofnasant y brenin: canys gwelsant fod doethineb Duw ynddo ef i wneuthur barn.
1 Kings 10:23A’r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear, mewn cyfoeth a doethineb. º
Ecclesiastes 1:16Mi a ymddiddenais â’m calon fy hun, gan ddywedyd, Wele, mi a euthum yn fawr, ac a gesglais ddoethineb tu hwnt i bawb a fu o’m blaen i yn Jerwsalem; a’m calon a ddeallodd lawer o ddoethineb a gwybodaeth.
Isaiah 60:5Yna y cei weled, ac yr ymddisgleiri; dy galon hefyd a ofna, ac a helaethir; am droi atat luosowgrwydd y môr, golud y cenhedloedd a ddaw i ti. º