Ail Lyfr y Brenhinoedd 7:23
Ac efe a wnaeth fôr tawdd yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl: yn grwn oddi amgylch, ac yn bûm cufydd ei uchder; a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a’i hamgylchai oddi amgylch.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
22Ac ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili. Felly y gorffennwyd gwaith y colofn¬au.
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 7
Cross References
Exodus 30:17¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
Exodus 38:8¶ Ac efe a wnaeth noe bres, a’i throed o bres, o ddrychau gwragedd, y rhai a ymgasglent yn finteioedd at ddrws pabell y cyfarfod.
2 Kings 16:15A’r brenin Ahas a orchmynnodd i Ureia yr offeiriad gan ddy wedyd, Llosg ar yr allor fawr y poethoffrwm boreol, a’r bwyd-offrwm prynhawnol, poethoffrwm y brenin hefyd, a’i fwyd-offrwm ef, a phoethoffrwm holl bobl y wlad, a’u bwyd-offrwm hwynt, a’u diodydd-offrwm hwynt; a holl waed y poethoffrwm, a holl waed yr aberth, a’ daenelli di arni hi; a bydded yr allor bres i mi i ymofyn. º
2 Kings 25:13Y colofnau pres hefyd, y rhai oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a’r ystolion, a’r môr pres, yr hwn oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a ddrylliodd y Caldeaid, a hwy a ddygasant eu pres hwynt i Babilon. º
2 Chronicles 4:2Gwnaeth hefyd fôr tawdd, yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, yn grwn o amgylch, ac yn bum cufydd ei uchder, a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a’i hamgylchai oddi amgylch.
Jeremiah 52:17A’r Caldeaid a ddrylliasant y colofnau pres y rhai oedd yn nhŷ yr AR¬GLWYDD, a’r ystolion, a’r môr pres yr hwn oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD; a hwy a ddygasant eu holl bres hwynt i Babilon. º