Ail Lyfr y Brenhinoedd 7:51
Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth y brenin Solomon i dŷ yr AR¬GLWYDD. A Solomon a ddug i mewn yr hyn a gysegrasai Dafydd ei dad; yr arian, a’r aur, a’r dodrefn, a roddodd efe ymhlith trysorau tŷ yr ARGLWYDD.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 7
Cross References
2 Samuel 8:7Dafydd hefyd a gymerth y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser, ac a’u dug hwynt i Jerwsalem. º
1 Kings 6:9Felly yr adeiladodd efe y tŷ, ac a’i gorffennodd; ac a fyrddiodd y tŷ â thrawstiau ac ystyllod o gedrwydd.
2 Kings 25:15Y pedyll tan hefyd, a’r cawgiau, y rhai oedd o aur yn aur, a’r rhai oedd o arian yn arian, a ddug y distain ymaith. º
1 Chronicles 18:10Efe a anfonodd at y brenin Dafydd Hadoram ei fab, a phob llestri aur, ac arian a phres, gydag ef, i ymofyn am ei iechyd ef, ac i’w fendithio ef, am iddo ryfela yn erbyn Hadareser, a’i daro ef: canys rhyfela yr oedd Hadareser yn erbyn Tou. º
1 Chronicles 28:11Yna y rhoddes Dafydd i Sblomon ei fab bortreiad y porth, a’i dai, a’i selerau, a’i gellau, a’i ystafelloedd oddi fewn, a thŷ y drugareddfa, º
1 Chronicles 29:2Ac â’m holl gryfder y parottoais i dŷ fy NUW, aur i’r gwaith aur, ac arian i’r arian, a phres i’r pres, a haiarn i’r haiarn, a choed i’r gwaith coed; meini onix, a meini gosod, meini carbunculus, ac o amryw liw, a phob maen gwerthfawr, a meini marmor yn aml. º