Ail Lyfr y Brenhinoedd 8:30
Gwrando gan hynny ddeisyfiad dy’ was, a’th bobl Israel, pan weddïant yn y lle hwn: clyw hefyd o Ie dy breswylfa, sefo’r nefoedd; a phan glywych, maddau. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Ail Lyfr y Brenhinoedd 8
Cross References
1 Kings 8:36Yna gwrando di yn y nefoedd, a maddau bechod dy weision, a’th bobl Israel, fel y dysgych iddynt y ffordd orau y rhodiant ynddi, a dyro law ar dy dir a roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth. º
1 Kings 8:43Gwrando di yn y nefoedd, mangre dy breswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a’r a lefo’r dieithrddyn arnat amdano: fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di, i’th ofni di, fel y mae dy bobl Israel, ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir y tŷ hwn a adeiledais i. º
2 Chronicles 6:21Gwrando gan hynny ddeisyfiadau dy was, a’th bobl Israel, y rhai a weddïant yn y lle hwn: gwrando di hefyd o le dy breswylfod, sef o’r nefoedd; a phan glywech, maddau.
2 Chronicles 20:6Ac a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW ein tadau, onid wyt ti yn DDUW yn y nefoedd, ac yn llywodraethu ar holl deyrnasoedd y cenhedloedd; ac onid yn dy law di y mae nerth a chadernid, fel nad oes a ddichon dy wrthwynebu di?
2 Chronicles 20:9Pan ddêl niwed arnom ni, sef cleddyf, barnedigaeth, neu haint y nodau, neu newyn; os safwn o flaen y tŷ hwn, a cher dy fron di, (canys dy enw di sydd yn y tŷ hwn,) a gweiddi arnat yn ein cyfyngdra, ti a wrandewi ac a’n gwaredi ni.